Dwy chwaer daeth i’r brig ym Mrwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Elin a Carys o Faldwyn swynodd y beirniad Gwenan Gibbard a Iestyn Tyne i ennill y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth frwd rhwng pedwar cystadleuydd.
Dyfarnwyd Danny Sioned o Bontarddulais ger Abertawe’n ail a Paul Magee o Gaergybi, Môn yn drydydd.
Mae cerddoriaeth werin yn rhedeg yn ddwfn yn eu gwaed gyda’u tad, John Gittins, yn aelod o Plethyn ac roedd dechrau perfformio fel deuawd yn gam naturiol iddyn nhw.
Gyda dylanwadau’n ymestyn o Lankum i Fairport Convention, mae gan eu caneuon deimlad cryf Cymreig, Celtaidd a rhyngwladol.
Fe gafodd gynulleidfa’r Ty Gwerin gyfle i fwynhau set lawn gan y ddwy chwaer yn ddiweddarach.
Mae hon yn gystadleuaeth newydd sbon sydd wedi’i chyflwyno am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddwy flynedd yn ôl.
Y bwriad meddai’r trefnwyr yw dilyn esiampl llwyddiant cystadleuaeth Brwydr y Bandiau drwy greu cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin, sy’n cynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau’r sin werin ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd.
Diffinnir gwerin fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol.
Derbyniodd Elin a Carys wobr ariannol o £600, rhodd Bethan Rhiannon a Huw Williams er cof am Angharad, mam Bethan o’r band Calan.
Cyfrannodd ei halawon ei hun i’r traddodiad a chyfeiliodd i nifer o ddawnswyr ar lwyfan yr Eisteddfod.
Yn ogystal caiff Elin a Carys y cyfle i recordio a ffilmio dau gan i’w darlledu ar BBC Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yr Eisteddfod.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.