Dechrau da iawn i’r Steddfod

Newyddion

Dechreuodd yr eisteddfod genedlaethol ddydd Sadwrn heb unrhyw anawsterau mawr, meddai prif weithredwr yr ŵyl.

Dywedodd Betsan Moses fod y Brifwyl yn cael ei gynnal ar dir fferm yn Is-y-coed ar gyrion dwyreiniol Wrecsam ac mae’n uchafbwynt dwy flynedd o waith caled yn trefnu a chodi arian. 

Wrth siarad â newyddiadurwyr ddydd Sul, dywedodd Ms Moses fod pawb yn falch o’r trefniadau a wnaed. 

“Roedd yr heddlu’n hapus bod traffig yn symud yn rhydd drwy gydol y dydd a bod y meysydd parcio yn llawn. 

  “Mae deiliaid stondinau a masnachwyr yn hapus gyda chynllun eang y Maes ac roedd nifer y bobl yn dod i’r ardal yn dda. 

“Mae mwy o stondinau yma eleni oherwydd bod y Maes yn fwy na’r un ym Mharc Ynys Angharad ym Mhontypridd yn 2024. Nid ydynt wedi’u grwpio mewn unrhyw ffordd benodol chwaith felly mae pobl sy’n cerdded ar hyd y rhesi o stondinau yn eu gweld i gyd.” 

Roedd y tywydd yn ffafriol hefyd gyda haul chynnes ac awyr las uwchben. 

Dywedodd mai’r unig gwynion a dderbyniasant oedd gan bobl sy’n cael anhawster beth i fynd i’w weld a’i wneud. 

“Roedd canmoliaeth eang i Y Stand, y cyngerdd yn y pafiliwn a adroddodd stori cysylltiad teulu â phêl-droed. 

“Roedd y llwyfan wedi’i drawsnewid yn stadiwm pêl-droed ac roedd côr yr eisteddfod yn ffurfio’r dorf. Gwahoddwyd y gynulleidfa i wisgo coch a gwyn Clwb Pêl-droed Wrecsam ac roeddem yn falch iawn o weld bod llawer ohonynt wedi gwneud hynny. 

“A dweud y gwir, dechrau da iawn i’r eisteddfod,” meddai. 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau