Bydd y Prif Weinidog yn dathlu llwyddiant newydd Wrecsam fel cyrchfan fyd-eang ar gyfer diwylliant a chwaraeon wrth iddi ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Bydd hi’n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb arbennig yn yr Eisteddfod gyda’r newyddiadurwraig Maxine Hughes. Mae Maxine yn adnabyddus am ei gwaith ar y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham, gyda pherchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, a’r gyfres Byd Eithafol ar gyfer S4C.
Maxine Hughes
Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n hyfryd bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i ddathlu sut mae’r lle rhyfeddol yma’n llwyddo i ddal ysbryd y Gymru fodern yn berffaith – lle mae ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a’r cyfoes yn dod ynghyd.
“Mae bob amser yn wych gweld ein diwylliant arbennig a’r Gymraeg yn cael sylw yn yr Eisteddfod, a’r cyffro sy’n dod gyda hi.
“Mae Wrecsam yn dangos sut mae ein cymunedau yn gallu ffynnu ar lwyfan y byd wrth barhau i fod yn Gymry balch.”
Dywedodd Maxine Hughes: “Mae stori Wrecsam bellach wedi teithio’r byd. Mae’r ddinas wedi bod drwy amseroedd anodd, ac mae gwaith i’w wneud o hyd, ond mae’n stori o wydnwch a chymuned gref.
“Dw i mor falch o fod yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod, a hyd yn oed yn fwy cyffrous bod yr ŵyl yn cael ei chynnal yn Wrecsam. Dw i’n edrych ymlaen at gael trafodaeth eang gyda’r Prif Weinidog yn nigwyddiad diwylliannol blynyddol pwysicaf Cymru.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Rydym yn defnyddio briwsion/cwcis er mwyn darparu'r profiad gorau o'n gwefan. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan yna tybiwn eich bod yn hapus hefo hynny. Ceir mwy o wybodaeth yma.
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.