Cofio Dewi Pws – Nwy yn y Nen 

Newyddion

Atseiniodd rhai o ganeuon enwocaf Dewi ‘Pws’ Morris o amgylch Maes y Brifwyl wrth i gyfeillion yr actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail dalu teyrnged iddo. 

Bu farw Dewi yn 76 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch ychydig ddyddiau ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd. 

Neithiwr bu cyngerdd arbennig, Nwy yn y Nen, yn galluogi’r gynulleidfa gofio Dewi a chlywed eto a chyd-ganu rhai o’i ganeuon poblogaidd. 

Dywedodd ei wraig, Rhiannon, byddai Dewi wrth ei fodd gyda’r syniad o gyngerdd o’i ganeuon. 

“Byddai wedi gwirioni! Efallai na fyddai’n deall pam eu bod yn canu ei ganeuon ond y byddai’n ei ystyried yn anrhydedd fawr. Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymeryd rhan yn y cyngerdd a’i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau.” 

Dewi Pws oedd prif leisydd y grŵp arloesol Y Tebot Piws. Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu Edward H Dafis.    

Ymhlith ei gyfansoddiadau yw Lleucu Llwyd – un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws – a Nwy yn y Nen, cân fuddugol Cân i Gymru 1971. 

Ychwanegodd Rhiannon fod y syniad am y cyngerdd wedi dod o’i gyfeillion yn fuan wedi ei farwolaeth. 

“Cleif (Harpwood) gynigiodd y syniad yn gyntaf ac roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad dda ac fe aeth ymlaen i drefnu pethau. Mei Gwynedd sy’n gyfrifol am ddewis y caneuon a pwy sy’n eu canu,” meddai.  

Un o’r rhai gymerodd rhan yn y cyngerdd arbennig oedd y gantores a’r cyflwynydd Meinir Gwilym: 

Dywedodd: “Wnes ddod i adnabod Dewi Pws yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

“Roedd yn dod i gigs Pedair yn aml ac wrth gwrs, drwy fod yn Dewi, roedd yn rhaid iddo dynnu coes a dweud ambell i jôc ond roedd yn dangos brwdfrydedd mawr tuag at yr hyn rydym yn ei wneud ac roedd hynny yn ein llewni a hyder. 

“Mae’n fraint anhygoel ac emosiynol hefyd i gael gwahoddiad i gymeryd rhan yn y cyngerdd i dalu teyrnged iddo.” 

Cytunodd Rhiannon y byddai’n noson emosiynol. 

“Mae caneuon Dewi yn cael eu chwarae ar y radio yn aml ac yn cael teimladau cynnes wrth eu clywed a gwybod nad ydyw wedi ei anghofio,” meddai. 

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam. Ysgrifennodd nifer o lyfrau, gan gynnwys llyfrau i blant a bu’n Fardd Plant Cymru yn 2010. 

Fe’i dderbyniwyd i Orsedd Cymru a chymerodd ran yn seremonïau’r Orsedd yn Eisteddfod Llyn ac Eifionydd. 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau