Rhifyn Gorffennaf Y Cymro

Newyddion

Mae’r argyfwng yn ein cymunedau yn ffaith nad oes posib ei hosgoi – argyfwng gwirioneddol, gyda’r allfudiad o siaradwyr Cymraeg yn cael effaith andwyol economaidd, cymdeithasol, cymunedol ac, wrth gwrs, ieithyddol.

Nid chwarae bach yw cael unrhyw effaith gadarnhaol ar y sefyllfa a does gan ein Llywodraeth ddim hudlath chwaith. Ond dyw syllu ac ysgwyd pen ddim yn ddatrysiad ac mae sylw manwl yn rhifyn y mis hwn i wirionedd hyll y sefyllfa a’r hyn mae Cymdeithas yr Iaith yn ei alw yn ‘gylch dieflig o ddirywiad’.

Meddai Jeff Smith: “Mae dyletswydd foesol, ymarferol a  gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond hyd yma, mae’r ymyriadau sydd wedi eu cyflwyno wedi bod yn gyfyngedig yn hytrach na chwmpasog, yn dila yn hytrach nag uchelgeisiol, yn adweithiol yn hytrach nag yn rhagweithiol.”

Darllenwch fwy yn Y Cymro fis Gorffennaf.

Mae pawb wedi darllen hanes trist Steddfod y Gadair Ddu …ond na nid honno. Roedd un hefyd yn Wrecsam nol yn 1876 pan fu farw’r bardd fisoedd cyn y Brifwyl ar y diwrnod iddo anfon ei gerdd fuddugol i mewn. Darllenwch erthygl yr hanesydd Mel Hopkins.

Ac ydyn ni’n gwneud digon i dynnu’r di-Gymraeg i mewn i’n bywyd a’n diwylliant Cymreig? Tybed – meddai Dafydd Iwan yn ei golofn. “…ydyn ni’r Cymry Cymraeg mewn gwirionedd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i groesi’r bont at bobol fel Mike Peters? Ydyn ni’n gwneud yr un math o ymdrech ag y gwnaeth o i gael ei gynnwys o fewn y teulu a’r diwylliant Cymraeg?”

Pleser a phoen sodlau uchel sydd gan Cadi Edwards yn ei golwg y mis hwn wrth adrodd ei hanes yn ymweld â digwyddiad crand yn Llundain. Meddai: “…mae’n rhyfeddol bod ‘high heels’ ddim wedi cael eu gwahardd yn llwyr!  A serch y boen a’r ‘blistars’, serch y strytio sigledig, mae’n rhaid cyfaddef, eu bod yn gwneud i’ch coesau edrych yn ffantastig.”

Mae rhifyn Gorffennaf ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau