Hwyrach bod rhywbeth am y geiriau ‘datganoli darlledu’ sy’n methu dal angerdd y pwnc …methu cyflymu’r gwaed rhywsut.
Be am ddeud ei bod hi’n hen bryd i Gymru gael yr hawl a’r hyder i gael gweld ein hunain yn ein cyfryngau drwy ein llygaid NI fel cenedl falch ac nid drwy lygaid a blaenoriaethau llywodraethau a chwmnïoedd enfawr tu hwnt i’n ffin. Gwell tybed?
Beth bynnag am hynny – mae’r addewid i greu corff penodol i gynghori ar ddarlledu a chyfathrebu i Gymru wedi diflannu fel gwlith. Mae pethau wedi newid meddai ein Llywodraeth – hmm!
Mae’r ddadl barhaus am natur pherchnogaeth ein cyfryngau yn un sy’n ganolog ein hunaniaeth fel cenedl ac yn hawlio’r dudalen flaen yn rhifyn Mehefin.
Meddai gweinidog y Llywodraeth: “…mae datblygiadau dros y deuddeg mis diwethaf wedi gofyn i ni ailystyried y ffordd orau o gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer darlledu yng Nghymru.” Dydy Cymdeithas yr Iaith nac ambell un arall ddim yn rhannu’r farn honno. Darllenwch fwy am y stori yn Y Cymro.
Ac wrth i lyfr gwych am y frwydr dros yr Iaith yn y chwedegau gael ei gyhoeddi, gofyn mae’r colofnydd Sharon Morgan os ydym i gyd yn meddwl rhywsut erbyn hyn bod popeth yn iwtopaidd o dda a bod dim achos brwydro dros unrhyw beth mwyach? Meddai: “Ydyn ni i gyd yn defnyddio’r ffurflenni Cymraeg y brwydrwyd mor galed i’w sicrhau? Ydyn ni i gyd yn defnyddio’r dewis Cymraeg yn y twll yn y wal ac wrth brynu nwyddau yn yr archfarchnad?” Darllenwch yr hyn sydd ganddi i ddweud y mis yma.
A gyda’n rhamantiaeth hanesyddol brwd yn cael ei anwybyddu am ‘chydig rhaid cofio mai nid pob Cymro a ochrodd gyda Llywelyn yn ei frwydr olaf â brenin Lloegr. Na – mi oedd un o’n Tywysogion Cymreig yn enwedig yn ddraenen yn ystlys Ein Llyw Olaf drwy’r blynyddoedd. Pwy tybed – beth ddigwyddodd iddo? Darllenwch golofn yr hanesydd Melfyn Hopkins.
Ac yn ôl y Colofnydd Dylan Wyn Williams mae ‘na ddwy gyfres wych ar ein sgrin ar hyn o bryd sy’n torri tir newydd o’r diwedd ar ôl hir aros.
Mae rhifyn Mehefin ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.