Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gyffrous i rannu anthem swyddogol Cymru ar gyfer Pencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 yn y Swistir ym mis Gorffennaf. Teitl y gân yw ‘Never Gonna Break Her’, ac fe’i hysgrifennwyd gan Amy Wadge, ac fe’i pherfformir gan y gantores Liss Jones.
Mae ‘Never Gonna Break Her’ yn gân sy’n tynnu ysbrydoliaeth o bwrpas tîm cenedlaethol menywod Cymru: Chwarae dros newid. Chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni, Amdanyn Nhw, Amdani Hi.
Mae’r slogan ‘Amdanom Ni, Amdanyn Nhw, Amdani Hi.’ yn cydnabod y gorffennol, yn arddangos y presennol ac yn ysbrydoli’r dyfodol. Fydd y cân ar gael ar bob prif blatfform ffrydio o ddydd Mercher, 25 Mehefin.
Mae Jones yn gantores o Ferthyr a chyn-ymgeisydd ar The Voice UK.
“Mae cael fy newis i ganu Never Gonna Break Her, anthem swyddogol Cymru, yn anrhydedd oes,” meddai. “Fel merch ifanc yn tyfu lan yng Nghymru, roeddwn i wastad yn dilyn fy mreuddwydion – yn union fel y chwaraewyr anhygoel hyn. Mae’r gân hon ar eu cyfer nhw, ond hefyd ar gyfer pob menyw a gafodd ei dweud nad oedd hi’n gallu.”
“Rwy’n caru pob cyfle i weithio gydag artistiaid o Gymru oherwydd mae gynnon ni gymaint o dalent yma,” meddai’r cyfansoddwraig Amy Wadge. “Mae gan Liss Jones lais eiconig – mae pobl yn ei hadnabod o The Voice, ond rydw i wedi bod yn ymwybodol ohoni ers blynyddoedd. Rwy’n credu mai hi yw un o’r cantorion gorau sydd gennym yng Nghymru o ran llais, ac mae hi hefyd yn berson gwych, felly mae wedi bod yn brofiad hyfryd.”

Mae Amy Wadge yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus yn y Deurnas Unedig, ac mae’n adnabyddus am ei geiriau emosiynol a’i chysylltiadau cryf â Chymru.
“Ar gyfer twrnamaint sy’n cynrychioli carreg filltir genedlaethol i bêl-droed Cymru, roedd yn teimlo’n gwbl briodol cydweithio â cherddor mor enwog a pharchus ag Amy Wadge,” dwedodd Melissa Palmer, Uwch Reolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd CBDC.
“Roedden ni eisiau anthem oedd yn bwerus, yn falch, ac yn ystyrlon iawn, ac mae Amy a Liss Jones wedi dod â hynny’n fyw mewn ffordd fythgofiadwy.
“Mae geiriau symbolaidd Amy a llais anhygoel Liss, ynghyd â’u cysylltiad emosiynol â’r prosiect, yn dal ysbryd y foment yma yn hanes ein cenedl. Mae ‘Never Gonna Break Her’ yn deyrnged wirioneddol i daith y tîm ac i bob menyw sydd erioed wedi gorfod ymladd i gael ei gweld, ei chlywed, neu ei gwerthfawrogi.”
Bydd Cymru’n cychwyn eu hymgyrch UEFA EURO Menywod 2025 yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, cyn wynebu Ffrainc yn St Gallen ar ddydd Mercher, 9 Gorffennaf. Bydd tîm Rhian Wilkinson yn dychwelyd i St Gallen i gwblhau eu gemau yn y grŵp yn erbyn Lloegr ddydd Sul, 13 Gorffennaf.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.