Dathlu diwylliant Cymru a llwyddiant byd-eang Wrecsam

Bydd y Prif Weinidog yn dathlu llwyddiant newydd Wrecsam fel cyrchfan fyd-eang ar gyfer diwylliant a chwaraeon wrth iddi ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw. Bydd hi’n cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb arbennig yn yr Eisteddfod gyda’r newyddiadurwraig Maxine Hughes. Mae Maxine yn adnabyddus am ei gwaith ar y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham, […]

Continue Reading

Anthem swyddogol Cymru ar gyfer Pencampwriaeth EURO Menywod 2025

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru  yn gyffrous i rannu anthem swyddogol Cymru ar gyfer Pencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 yn y Swistir ym mis Gorffennaf. Teitl y gân yw ‘Never Gonna Break Her’, ac fe’i hysgrifennwyd gan Amy Wadge, ac fe’i pherfformir gan y gantores Liss Jones. Mae ‘Never Gonna Break Her’ yn gân sy’n tynnu […]

Continue Reading

Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai’r actor, Mark Lewis Jones, a ddaw’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol. Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion dinas Wrecsam […]

Continue Reading

Cydnabod cyfraniad ‘na chafwyd ei debyg’ i’r byd llyfrau

Mewn digwyddiad i lansio cyfrol newydd Cerddi’r Ystrad ym Mhontrhydfendigaid fe gyflwynwyd gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i Fyd Llyfrau i Lyn Ebenezer. Cyflwynwyd y lechen gan Garmon Gruffudd o’r Lolfa ar ran Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Mae’r wobr yn cael ei gyflwyno yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig dros gyfnod hir i’r […]

Continue Reading

Hanesyddol – trydydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam

Wrecsam 3  – 0  Charlton Athletic  gan David Edwards  Llun: Gemma Thomas Gyda’r gwyliau’r Pasg yn dod i ben, heidiodd miloedd o gefnogwyr Wrecsam, i’r Cae Ras Stók, i chwilio am ‘wy aur’ dyrchafiad.  Ond hyd yn oed cyn i’r giatiau agor a phêl ei chicio, roedd miloedd o barau o lygaid wedi eu gludo i sgriniau […]

Continue Reading

Miloedd ar strydoedd y Barri i fynnu annibyniaeth i Gymru

Roedd dros 6,000  yn gorymdeithio drwy strydoedd y Barri heddiw i alw am annibyniaeth i Gymru. Daeth yr orymdaith – wedi ei threfnu gan YesCymru ac AUOBCymru â phobl o bob cwr o’r wlad. Ers 2019, mae miloedd wedi bod yn rhan o orymdeithiau dros annibyniaeth ledled Cymru – mewn llefydd fel Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, […]

Continue Reading