ie boi!

Tudalen Dod yn Fuan

 

Fe fyddai Stifyn Parri ymhlith hoff ymgeiswyr Yes Cymru Abertawe i fod yn Arlywydd cynta’r Gymru annibynnol. Ac mae’n cadw cwmni i Dewi Pws, Michael Sheen, Carles Puigdemont, Iolo Williams a Mansel Davies (ie, boi’r loris!) ar restr fer anrhydeddus iawn.

 

Mae gan y criw reswm arbennig iawn am ddewis y digrifwr Stifyn Parri – neu ‘Mr Producer’ – wrth iddo ddod i lansio eu gigs comedi newydd sbon, Sefyll Lan Dros Gymru yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Sadwrn yma (Ebrill 7 – ffoniwch 01792 456 856 i fachu tocyn am £10!)

 

Rhowch griw o ymgyrchwyr gwleidyddol mewn stafell rithwir gyda’i gilydd am awr fach – ac fe gewch chi’ch synnu gan yr awgrymiadau! Dyma ymgais Sefyll Lan Dros Gymru Abertawe i drafod rhai o’r pynciau llosg hynny fyddai’n codi mewn Cymru annibynnol.

 

Mewn Cymru annibynnol, a fyddai’n rhaid i bobol heb y cyfenwau Williams, Jones, Evans, Davies neu Thomas gael trwydded i aros yng Nghymru?

 

Wrth gwrs! Os nad oes ganddyn nhw’r un o’r cyfenwau hyn, ydyn nhw wir yn Gymry glân gloyw beth bynnag?! Dyma awgrym ein haelod hynaf Wiliam ap Siôn ap Efan ap Dafydd ap Tomos!

 

A fydd rhaid i bawb fabwysiadu cyfenw’n cynnwys ‘Ap’ mewn Cymru annibynnol?

 

Dim ond y dynion. Caiff merched fabwysiadu ‘ferch’, wrth gwrs!

 

Ai Caernarfon fyddai prifddinas y Gymru annibynnol?

 

Castell Edward I yw castell y dref hon – ych! Ac mae pawb yn gwybod fod y de yn well na’r gogledd, beth bynnag. Ond i gael annibyniaeth, rhaid uno’r de a’r gogledd, felly beth am gyfaddawd? Machynlleth yw prifddinas hanesyddol Cymru ac yn brifddinas bresennol comedi Cymru – ac mae hynny’n ddigon da i’r criw yma o drefnwyr comedi.

 

Neu beth am ail godi Llys Rhosyr ac Ynys Môn, unwaith ac am byth, yn Fôn Mam Cymru?

 

Roedd un aelod bach mor hy ag awgrymu y dylem gipio Amwythig yn ôl oddi ar y Saeson ac mai yn y fan honno y dylai ein prifddinas fod.

 

Ond efallai mai’r awgrym mwya’ diddorol ac arloesol oedd dilyn esiampl yr Eisteddfod Genedlaethol a symud prifddinas Cymru o amgylch ar gefn trelar Ifor Williams yn cael ei thynnu gan gar Gilbern Invader.

 

Ai cynnyrch Cymreig yn unig fydd ar gael yn y Gymru annibynnol?

 

Oes gwell i’w gael yn y byd? Beth am fabswyiadu cig oen Cymru a llysiau o ‘lotment Leanne’ fel pryd bwyd swyddogol Cymru?

 

Ai Mansel Davies fydd Arlywydd cynta’r Gymru annibynnol?

 

“Rwy’n gallu bod ym mhobman rywsut ar yr un pryd, yn slofi pawb mewn traffig ym mhentrefi bach y byd” (chwedl y Welsh Whisperer!). Wel, mae gallu bod ym mhobman yn sicr yn fantais i Arlywydd – ond mae cynifer o loris Mansel Davies yng Nghymru, dychmygwch ei entourage arlywyddol! Allai’r M4 ddim ymdopi, heb sôn am bentrefi bach y wlad!

 

Y cynigion eraill oedd Michael Sheen – areithiwr o fri; Carles Puigdemont – os nad oes lle iddo yng Nghatalwnia, fe gymerwn ni fe; a gwell i ni beidio ag anghofio am y Cymry da hynny – Iolo Williams, Arfon Jones (Comisiynydd Heddlu’r Gogledd), un o aelodau Goldie Lookin’ Chain (Newport State of Mind!) neu un o actorion Twin Town – hoff ffilm y Jacs (does unman yn debyg i gartre’!).

 

Ond y cwestiwn mawr yw sut fyddai’r Arlywydd yn cael ei ethol? Na, nid gan bwyllgor (hoff ddull y Cymry) ond trwy bleidlais teledu realiti. Os nad yw’n plesio o un wythnos i’r llall… ta-ta! A phwy gwell na’r un ymgeisydd sy’ wedi bod trwy’r profiad realiti’n fwyaf diweddar ar ‘Fferm Ffactor’, Stifyn Parri. Dewch i Ganolfan Tŷ Tawe ar Ebrill 7!

 

Cau Dy Geg, lansiad Sefyll Lan Dros Gymru, Tŷ Tawe, Abertawe, Ebrill 7fed (8pm, £10).

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau