Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

Pwy sy’n cofio’r tractors ar strydoedd y brif ddinas wrth i’r ffermwyr brotestio yn erbyn cynlluniau cymorthdaliadau amgylcheddol?

Aeth hi’n ddadl go chwerw ar y pryd ond rŵan mae Llywodraeth Cymru yn honni bydd y fersiwn newydd o’r cynllun ffermio cynaliadwy – prif ffynhonnell cymorth y llywodraeth i ffermio yng Nghymru – yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.

Hmm… nid pawb sy’n hapus wrth gwrs ac mae barn ar draws y sbectrwm yn rhifyn Awst Y Cymro.

Ni fyddai’n fis Awst heb farn pawb hefyd am apêl y Brifwyl. Er bod miloedd wedi tyrru i gaeau Is-y-Coed, poeni mae’r colofnydd Heledd Gwyndaf nad yw’r trefi a’r dinasoedd cyfagos yn cael digon o sylw’r dyddiau hyn.

Er bod rhai yn hapus iawn efo’r Maes modern hollol hunan gynhaliol, meddai Heledd: “Ymddengys, a chywirwch fi os ydw i’n anghywir, fod yr Eisteddfod fel rhyw beiriant mawr yn trio cadw pawb a phopeth ar y maes cyn hired â phosibl, gan gynnwys yn hwyr i’r nos.” Beth yw eich barn chi – rhowch wybod i gwyb@ycymro.cymru.

A sut daeth darn o ywen Dafydd ap Gwilym o Ystrad fflur i eistedd yn dwt ar seidbord ein colofnydd Lyn Ebenezer? – wel prynwch y Cymro i ffeindio allan.

Wrth i Palestine Action gael ei henwi yn fudiad terfysgol gofyn mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Joseff Gnabo: “Pa mor anodd fyddai hi i lywodraeth y dydd ddadlau y dylai mudiad fel Cymdeithas yr Iaith gael ei ddynodi yn un terfysgol?” Darllenwch farn lawn y Gymdeithas yn y golofn y mis hwn.

Edrych yn ôl i hen ddyddiau’r ffarmwrs mae Dr Geraint Davies a sut i ddyfodiad y tractor newid cefn gwlad Cymru am byth. Meddai: “Gallai dyn ar dractor dorri, troi, a ‘belo’ cae ar ei ben ei hun mewn diwrnod. Effeithlon, ie. Ond hefyd – bywyd llawer mwy unig. Dechreuodd bywyd cymunedol, a oedd unwaith wedi’i glymu i rythmau llafur, ddrifftio.”

Mae rhifyn Awst ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post neu gopi digidol ar e-bost bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: tanysgrifio@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    hynaf
    mwyaf newydd mwyaf o bleidleisiau
    Adborth
    Gweld holl sylwadau