Sut y chwaraeodd dyn o Flaenau ran yn y paratoadau am ‘D-Day’

Newyddion

Gogwydd newydd ar stori 80 mlwydd oed

Mae nifer yn ymwybodol bod brodor o Fangor, Hugh Iorys Hughes wedi bod ynghlwm wrth ddatblygiad harbwr dros dro Mullberry, a ddefnyddiwyd yn ystod glanio ‘D-Day’, gyda rhai ohonynt wedi’u hadeiladu ym morfa Conwy hefyd.

Mae cyfraniad Jack Derbyshire, yn enedigol o Flaenau Ffestiniogyn llai adnabyddus, a bu yntau hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y paratoadau ar gyfer D-Day.

Graddiodd Jack o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Ffiseg ym 1940. Yna, ymunodd â Sefydliad Ymchwil y Morlys (Admiralty Research Establishment) yn Teddington.

Yno, cafodd ei bennu i ‘Grŵp W’, grŵp bychan o fathemategwyr a ffisegwyr. Eu hamcan oedd astudio  creadigaeth tonnau cefnfor dros bellteroedd mawr iawn, i gynorthwyo â datblygu ffyrdd o ragweld cyflwr tonnau ac felly, darparu rhagolygon tonnau i gynorthwyo â chynllunio glanio gyda cherbydau amffibiaidd.  Gallai hyd yn oed tonnau canolog eu maint beryglu llwyddiant glaniad o’r fath.

Jack Derbyshire – yn enedigol o Flaenau Ffestiniog

Wrth wneud y gwaith, adeiladwyd peiriant ‘rhagolygon tonnau’ a oedd yn gallu rhannu gwahanol elfennau’r tonnau. Drwy’r dadansoddiad hwn roeddynt yn medru profi bod tonnau ‘ymchwydd’ hirach sy’n deillio o stormydd yn cyrraedd y lan cyn tonnau a gynhyrchwyd gan wynt lleol.

Fel yr esbonia Tom Rippeth, Athro mewn Cefnforeg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor,

“Mae’r gwelliannau a wnaed ganddynt wrth wella rhagolygon tonnau, yn eu hymgais i gynorthwyo ag ymdrech y rhyfel, bellach yn cael eu hystyried yn gychwyn ar gefnforeg ffisegol yma yn y Deyrnas Unedig.”

Ym 1963 crëwyd adran newydd Cefnforeg Ffisegol ym Mhrifysgol Bangor gyda phenodiad Jack Derbyshire fel Pennaeth Adran a’r Athro cyntaf mewn Cefnforeg Ffisegol. Ers hynny,  mae astudiaeth cefnforeg ffisegol ym Mhrifysgol Bangor wedi mynd o nerth i nerth.

Mae ymchwil yn yr Ysgol sydd gyda’r orau yn y byd hefyd yn rhychwantu’r byd, o’r Arctig i’r Antarctig, o fesur cymysgu dyfroedd ar raddfa centimedr i astudio llanw’r byd drwy hanes y Ddaear, a nodweddu adnoddau ynni morol ac effeithiau eu defnydd.

Ychwanegodd yr Athro Tom Rippeth,

“Roedd Jack yn ffigwr adnabyddus yn y gymuned leol yma ym Mhorthaethwy nes y bu farw yn 2004. Yr hyn sy’n llai adnabyddus yw ei waith gyda Grŵp-W yn ystod y rhyfel a bod ei waith sylfaenol ar donnau’r cefnforoedd yn dal i gael ei ddysgu ledled y byd.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau