Mae Sioe Newyddion Y Cymro wedi ei darlledu ar-lein am y tro cyntaf
Mae’r rhaglen yn cynnwys prif newyddion Cymru a thrafodaeth ar faterion cyfoes Cymru. Y prif bwnc trafod y mis yma ydi sefyllfa tai Cymru – gydag Aled Gwyn Job, Heledd Gwyndaf ac Aelod Tai Cabinet Cyngor Gwynedd, Craig ab Iago, yn cyfrannu fel gwesteion.
Mae’r rhaglen yn gyd-gynhyrchiad rhwng Y Cymro a chwmni annibynnol Gweledigaeth. Mae’r gwaith golygu yn cael ei wneud gan Mark Back, y cyflwyno a’r cyfarwyddo gan Owain Llŷr a rheolwr-gyfarwyddwr Cyfryngau Cymru Cyf / Y Cymro, Gruffydd Meredith yn olygydd a chynhyrchydd.
Mi fydd hon yn rhaglen fisol am gyfnod o chwe mis cychwynnol a daeth y cynhyrchiad at ei gilydd ar ôl i’r Cymro fod yn llwyddiannus mewn cais grant gan PING – Public Interest News Gateway – corff sydd yn annog newyddiaduriaeth annibynnol.
Gallwch weld rhifyn Mehefin islaw, neu cliciwch y linc yma.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.