Oes pwerau gennym i wella sefyllfa’r iaith nad sy’n cael eu cydnabod? Mae’n hawdd beio’r rheini tu hwnt i’r ffin am bopeth wrth gwrs ond a ddylwn ni ddefnyddio’r hyn sydd gennym yn barod cyn dechrau pwyntio bys?
Dyna safbwynt diddorol y colofnydd Heledd Gwyndaf wrth drafod gwrthod darparu dirwy barcio i Toni Schiavone yn y Gymraeg. Meddai: “Y broblem gyda hyn ydy fod llawer o’r pwerau dros ddeddfu ar faterion ieithyddol eisoes wedi cael eu datganoli i’n Senedd, ond fod Llywodraeth Llafur ‘Cymru’ ddim yn eu gweithredu”
A be am siarad syth am annibyniaeth? Oes modd ei fforddio hyd yn oed os yw’r ewyllys yno?
Mae darlithydd mewn economeg yn cynnig barn gryf yn y cyntaf o’i ddadansoddiadau o’r pwnc a beth yn union fydd pris ein rhyddid cenedlaethol. Meddai Dr Edward Thomas Jones: “Mae angen naratif newydd sy’n derbyn y sefyllfa gyllidol bresennol ond sy’n amlinellu uchelgais llawn dychymyg a chyfeiriad a phwrpas newydd.”
Ffeindio cariad wrth drio eich gorau i edrych y ffordd arall i’w pwnc Cadi Edwards y mis yma. Wnaeth osgoi cyswllt llygaid ‘ac ymddwyn fel nad ydw i wedi ei weld’ ddim gweithio. Darllenwch y rheswm pam yn ei cholofn.
A stori od iawn am wasg ddirgel mewn ogof yn argraffu’r llyfr cyntaf yng Nghymru sydd gan yr hanesydd Melfyn Hopkins i ni. Ie, saith dyn wedi’u cuddio am fisoedd yn creu cyhoeddiad ger tref glan môr Llandudno.
Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Mehefin Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Sylw gwag 18/6/24 gan gwyb er mwy’n profi’r system.