Oes gobaith tybed am newidiadau i’r terfyn cyflymder dadleuol 20mya ar draws ein gwlad? Yn sicr mae tôn y cyhoeddiadau o’r uchelfannau fel eu bod wedi newid yn ddiweddar – a hwn sy’n cael sylw go lew ar flaen rhifyn Mai Y Cymro.
Gwrando arnon ni sy’n bwysig meddai Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates: “Yn y pen draw, nid fi na Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu faint o newid fydd yn digwydd yn y 22 awdurdod lleol. Y cyhoedd fydd yn gwneud hynny, a’r cynghorau”
Cofio gwrthdaro streic y glowyr a ddiffiniodd genhedlaeth a chreu byd gwahanol mae’r Athro Deian Hopkin mewn erthygl arbennig y mis yma. Meddai:
“…allan o’r gwrthdaro daeth momentwm newydd ac annisgwyl ar gyfer newid gwleidyddol fel ymateb i’r hyn a welwyd yn ormes o Lundain.”
A chofio mae’r colofnydd Lyn Ebenzer – cofio synau hyfryd dyddiau ei blentyndod fel symffonïau’r gorffennol. Ond does dim melancoli chwaith – jyst myfyrdod syn ar yr hyn sydd byth i ddychwelyd i’n bywydau ni i gyd.
A be am lwyddiant diderfyn Hollywoodaidd Wrecsam? – wel roedd y Cymro ar Y Cae Ras i flasu awyrgylch y dathlu i gyd o lygad y ffynnon.
Pennod arall o hanes cythryblus ein gwlad sydd gan yr hanesydd Mel Hopkins y mis yma gyda’r stori am y rheswm pam i ymosodiad anferth ar Gymru gan frenin Lloegr gael ei ohirio ar y funud olaf.
Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Mai Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.