Wrecsam 2, Stockport 1
Adroddiad arbennig gan Iestyn Jones
“Eeeeew – mae hi ‘di mynd yn anodd cael tocynnau i weld Wrecsam yn chwara!” medda’ ffrind wrthyf yn Bala yr wythnos o’r blaen. Dwi ‘di clywed hyn sawl gwaith yn ddiweddar. Yr ateb byr yw, oherwydd yr holl sylw ar y clwb, mae’n anodd iawn. Oni bai eich bod hefo tocyn tymor, mae gweld Wrecsam yn chware pêl droed yn anoddach nag erioed.
Ta waeth, nid yw hynny i ddweud ei fod yn amhosib – a, fel mae’r dywediad yn dweud, “Mae unrhyw beth sy’ werth ei gael yn werth gweithio am!”.
Os y cofiwch, mi es i wylio Wrecsam hefo Y Cymro sawl gwaith y tymor diwethaf. Ond, ers hynny mae’r Dreigiau wedi cael dyrchafiad. Oherwydd hyn mae cyfyngiadau llymach ar gyfer y wasg ac mae angen mynd trwy drydydd parti o Lundain os yr ydych eisiau mynediad i’r stadiwm fel rhan o’r wasg.
Felly, mi wnes i fynd ar wefan y cwmni sy’n rhoi’r caniatâd ag er mwyn bodloni’r gofynion roedd rhaid cael yswiriant arbennig a dangos ‘Match Reports’ sydd wedi cael eu cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ar ôl prynu’r yswiriant (efallai bysa hi ‘di bod yn rhatach i drio prynu tocyn wedi’r cyfan) a ffeindio cwpl o enghreifftiau o fy ngwaith, mi wnes dderbyn e-bost. Darllenais hefo diddordeb: “Please can you provide information on your interest in this match?”.
“Welllll!!” meddyliais. Roedd hwn yn gwestiwn llwythog, neu ‘Loaded Question’ fel mae’r Sais yn ei ddweud. Oeddwn i am gyfaddef fy mod i’n fwy o gefnogwr cadair freichiau a oedd dim ond yn mynd i lond llaw o gemau chwaraeon y flwyddyn? Neu efallai dylwn i jest dweud fy mod yn gobeithio cyfarfod a rhai o sêr mwyaf y byd ffilmio.
Ag yna, wrth imi feddwl am atab call, nes i gofio nôl i 2001 pan oeddwn yn gweithio mewn ffatri yn Sidcup. Roeddwn i ‘di mynegi barn mewn cyfarfod Undeb pan weiddodd boi mawr, boliog arnaf yn flin: “WHO the F*** are you?!!”. Oes ‘na rhywun ‘di gofyn huna i chi o’r blaen? Mae o’n gwestiwn sy’n siŵr o lorio’r mwyafrif. Dwi’n cofio’n union sut nes i deimlo yn y cyfarfod cofiadwy dros ugain mlynedd nôl wrth imi rewi hefo annifyrrwch. Doeddwn i erioed wedi teimlo’r fath gywilydd.
Ag rŵan, roeddwn i’n gorfod atab yr un fath o gwestiwn eto. Wel dau rili: “Who are you and what do you want?!”. Ac felly, roedd rhaid imi esbonio yn fy Saesneg gora fod papur newydd Y Cymro wedi cael ei sefydlu yn Wrecsam tua 92 mlynedd yn ôl a bysa cynnwys papur newydd Cymraeg ymhlith cyfryngau’r byd yn werth ei ystyried.
Ac felly, gydag ychydig o swyn a pherswâd cefais docyn ar gyfer Wrecsam yn erbyn Stockport. Erbyn y gêm , roedd Wrecsam wedi cael dyrchafiad i Gynghrair Un (ond heb ennill y gynghrair) ond roedd buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf y tymor dros bencampwyr y cynghrair werth gweld.
Aaaaa fel bonws bach, cefais gyfarfod a chyfarwyddwr y clwb – yr actor Humphrey Ker a Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething. Wrth sgwrsio hefo Humphrey, gofynnais iddo os yr oedd yn bwriadu dod i Eisteddfod Wrecsam 2025. Fe ddangosodd ‘Humph’ (fel dwi’n ei alw) lawer o ddiddordeb yn ein gŵyl ddiwylliannol arbennig.
Pwy a ŵyr? Efallai erbyn Eisteddfod Wrecsam 2025 bydd Y Dreigiau wedi cael dyrchafiad arall a bydd teras newydd Y Cae Ras yn barod. Mr Gething – Allwch chi gael sgwrs gyda’ un neu ddau ffrind os gwelwch a chael trefn ar y caniatâd cynllunio? Byddai’n mor braf cael stadiwm i fod yn falch ohono yng ngogledd Cymru.
Prif lun gan Gemma Thomas
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.