‘Cam at weld Cymru drwy lygaid y Cymry’ oedd pennawd Y Cymro yng Ngorffennaf 2022 – a dyma ni rŵan o’r diwedd wedi cael addo creu corff i symud at hynny, creu cyfryngau sy’n wirioneddol Gymreig.
Hwn sy’n cael sylw go helaeth yn rhifyn Ebrill – cam mawr iawn i’n gwlad i allu rhoi terfyn ar gael ein gweld yn barhaus drwy sbectol y rheini tu hwnt i’r ffin.
Meddai’r colofnydd Heledd Gwyndaf: “…er y rhyddhad a’r canmol dros symud ymlaen ar hyn, rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth a chydnabod ein bod dal ar dir bregus iawn a bod dal gwaith pwyso i’w wneud i gael y maen i’r wal”
Y Cerddor a’r bardd Casi Wyn sy’n cael ei chyfweld y mis hwn gan Deian ap Rhisiart a di-flewyn-ar-dafod yw ei barn ar ambell bwnc cyfredol hefyd – o’r wasg Gymreig i’r rheidrwydd i fod yn barod i ymateb a gweithredu wrth syllu o bellter ar erchyllterau ein byd.
Cofio sut i datŵ (nad oedd yn campwaith celfyddydol) ar ei fraich gan yr enwog Cayo Evans ei achub rhag crasfa yn y chwedegau mae Lyn Ebenezer a myfyrio ar sut gall rhywun ddangos cymaint o wir gariad mewn amgylchiadau mor ofnadwy mae Dafydd Iwan yn ei golofn.
Glywsoch am ysbrydion swnllyd Llanbed? – wel fe dyrrodd cannoedd yna i’w clywed yn y ganrif ddiweddaf. Darllenwch pam yn erthygl Melfyn Hopkins.
A be am glywed mwy am Gymraeg y Cymoedd ar ein sianel i gyd-fynd â’r Brifwyl eleni? – syniad da yn ôl y colofnydd Dylan Wyn Williams.
Darllenwch fwy am y rhain a llawer mwy yn rhifyn Ebrill Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.