Fe fydd neuadd fyd-enwog y Royal Albert yn atseinio i sain corau meibion pan fydd 500 o ddynion yn cynrychioli 23 o gorau yn camu i’r llwyfan ar nos Sadwrn, Ebril 27.
Mae’r digwyddiad a lwyfannir gan Gymdeithas Corau Meibion Cymru wedi denu corau o Gymru benbaladr o’r Fflint i Gilycoed ynghyd â chorau aelodau cysylltiol o’r Canolbarth Dwyreiniol, Caint, a Chanada.
O dan ofal yr arweinydd Dr Alwyn Humphreys a chefnogaeth y cyfeilyddion adnabyddus Caradog Williams a Huw Tregelles Williams fe fydd y noson yn cynnwys arlwy amrywiol o’r clasuron, cerddoriaeth o’r sioeau, ynghyd ag emynau ac alawon traddodiadol Cymru.
Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Paul Reynolds: “Mae’n haelodau wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer y cyngerdd am hyd at bum mlynedd, o ystyried gohiriadau COVID, o hoffem dalu teyrnged i’w dyfal barhad ac ymroddiad.”
“Mae cyngherddau torfol fel hyn yn estyn modd i fyw yn enwedig i’r corau llai eu maint pan fo’r cyfleoedd i gynnal cyngherddau ar eu pennau eu hunain yn gyfyngedig. Mae’r cyngherddau yn helpu cynnal lles y corau a chantorion yn gorchfygu unigrwydd, cynnal hunan barch, datblygu cyfeillgarwch newydd, ac adeiladu sgiliau a hyder.
Ychwanegodd Mr Tregelles Williams, Llywydd y Gymdeithas: “Mae’r wledd yn ddatganiad fod canu corawl ym mhlith dynion yn fyw ac yn iach er y rhwystrau rydym wedi eu hwynebu yn y blynyddoedd diweddar.”
Fe fydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan rhai o blith talentau ifanc Cymru, y Tenor Osian Wyn Bowen a’r chwaraewr soddgrwth Steffan Morris. Fe fydd y côr merched gwobrwyol, Parti Llwchwr, hefyd yn ychwanegu at amrywiaeth y noson. Cyflwynir y noson gan y darlledwr newyddion a materion cyhoeddus, Garry Owen.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.