Sut daethon ni i hyn tybed?
Y berthynas chwerw ddiweddar rhwng ffermwyr Cymru a’n llywodraeth sy’n cael sylw go lew yn y rhifyn yma wrth drio gwneud synnwyr o ffrae sy’n sicr wedi cyrraedd y pwynt berw erbyn hyn.
”Mi ydan ni’n barod i wrando” meddai’r llywodraeth wrth wneud y pwynt eto nad ydynt eto wedi cael cyfle i edrych ar yr ymatebion i’w hymgynghoriad.
Ond poeni am eu dyfodol mae’r ffermwyr o fewn cynlluniau ansicr.
Mae cyfweliad llawn gydag Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, sydd yn sicr yn dweud ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod am yr holl sefyllfa.
Mae yna hefyd gyfweliad â Ceri Cunnington – gynt o’r band Anweledig a rŵan o Gwmni Bro Ffestiniog sy’n sôn am ochrau niweidiol a chadarnhaol twristiaeth yng Nghymru a’i weledigaeth i weld mwy o berchnogaeth leol ohono.
Meddai: “Mae problem AirB&B yn ‘Stiniog yn boncyrs, mae yna tua 300 o AirBnBs yma. Pan ti’n mynd i bentref Tanygrisiau, mae’n hurt.” Darllenwch y sgwrs lawn yn y rhifyn yma.
Ac mae’r colofnydd Cadi Edwards wedi bod yn holi ei nain am ei chyfeillgarwch yn Harlech y 50au gyda gŵr sydd yn eithaf adnabyddus y dyddiau hyn. Ie Paul McCartney cofiwch chi – wir-yr rŵan! Darllenwch yr hanes i gyd yn ei cholofn tro ‘ma.
Mae llawer mwy i’ch diddori yn rhifyn Mawrth Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.