Diffyg ‘ymdeimlad, dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o rôl ffermwyr’ – Cyfweliad Y Cymro gyda Aled Jones, Llywydd NFU Cymru

Newyddion

gan Deiniol Tegid

Mewn cyfweliad hefo’r Cymro dywed Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, bod ffermwyr yn dioddef oherwydd bod ‘polisïau gorthrymol’ yn cael eu gwthio arnyn nhw.

Mae Llywydd NFU Cymru wedi beirniadu’n hallt y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ac eraill yn y blaid Lafur am eu diffyg ymdeimlad tuag at ffermwyr.

Nid cynlluniau’r llywodraeth i gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r unig broblem meddai.  Mae’n honni nad ydynt yn llwyr ddeall y pwysau sydd ar ffermwyr oherwydd nifer o reoliadau a chyfyngiadau nac yn sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa bresennol i gynhyrchwyr bwyd. Fe allai fod yna oblygiadau difrifol i’r wlad yn y dyfodol meddai os nad yw pethau’n newid.

 

(Llun: Cymru Fyw)

“Mae nifer o ffermwyr mewn sefyllfa fregus,” meddai. “Fis Rhagfyr a Ionawr fe wnaeth un elusen iechyd meddwl i amaethwyr yma yng Nghymru weld cynnydd o 71% mewn ceisiadau am gymorth. Mae nifer o resymau am hyn, ond does dim amheuaeth fod pryderon ynglŷn â’r cynllun newydd yma yn ffactor bwysig.”

 

 

Wrth son am y Gweinidog Materion Gwledig yn hawlio bod y llywodraeth yn cefnogi elusennau iechyd meddwl i ffermwyr, dywedodd:

“Mae’n fy nghorddi i’n lan. Dwi’n ei chlywed hi ar lwyfannau yn canmol y gefnogaeth mae’r llywodraeth yn ei roi i’r elusennau yma – ond mae angen peidio creu y problemau yn y lle cyntaf ond oes?”

“Mae llawer o broblemau salwch meddwl yn deillio o sefyllfaoedd lle mae pobl yn teimlo bod neb yn gwrando arnyn nhw, lle maen nhw’n teimlo bod polisïau gormesol yn cael eu gorfodi arnyn nhw. Does gan amaethwyr ddim monopoli ar ddioddef mewn sefyllfaoedd o densiwn, mae hyn yn wir ar draws cymdeithas – ond tydi’r sefyllfa bresennol yn helpu neb.”

 

Llywydd NFU Cymru. Aled Jones, gyda’r Dirprwy Lywydd Abi Reader

Mae’r problemau hefyd yn llawer ehangach na’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy meddai.

“Mae pethau fel cyfyngiadau TB. Does gan bobl nad ydyn nhw’n ffermwyr mo’r syniad cyntaf pa mor andwyol i’r busnes ydi’r rheiny am gyfnod hir.”

Mae’n awgrymu bod y trafferthion presennol yn deillio o ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn ag amaeth yn y blaid Lafur yn gyffredinol.

“Mae rhai ASau Llafur wedi dweud pethau cwbl hurt. Mae’n ymddangos nad oes ganddyn nhw unrhyw ymdeimlad na dealltwriaeth o’r problemau rydan ni’n wynebu.

“Mae ‘na ddiffyg cydnabyddiaeth o rôl cynhyrchwyr bwyd. Bechod na fysan nhw’n gwybod sut beth ydi o i fod yn y sefyllfa mae ffermwyr ynddi hi ar y funud.”

 

 

Mae’n cydnabod ymdrechion llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r sialens newid hinsawdd.

“Does dim amheuaeth ei fod yn broblem. Ond y sialens ydi cael hyd i ffyrdd i daclo’r broblem heb ddifetha’r economi hefyd.  Mae’n sialens fyd-eang a fyddwn ni fel un gwlad fechan byth yn gallu taclo’r broblem.”

Yn ganolog i hyn i gyd mae’r angen i gynhyrchu mwy o fwyd meddai.

“Mae cynhyrchu bwyd yn sialens  anferthol ar draws y byd. Mae’r llynnoedd gwin a’r mynyddoedd menyn wedi mynd.

’Nôl yn 1973, roedd yna ddigon o fwyd wrth-gefn i fwydo’r byd am chwe wythnos.  Bellach, â phoblogaeth y byd wedi dyblu yn yr amser yna, dim ond gwerth pedwar diwrnod sydd ganddo ni.

Ac mae hyn yr un mor wir yma. Yn yr 1980au roedd y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu tua wyth deg y cant o’i fwyd ei hun, bellach mae hyn wedi syrthio i bum deg wyth y cant. Mae poblogaeth Prydain yn dal i dyfu, ond rydan ni’n colli 3,500 acer o dir bob blwyddyn i ddatblygiadau newydd.”

Fodd bynnag mae’n aros yn bositif am ddyfodol y diwydiant.

“Dwi dal yn hyderus,” meddai. “Achos dim ond ffermwyr all gynhyrchu bwyd. Dwi’n grediniol mewn   blynyddoedd i ddod y cawn ni ein profi’n iawn.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau