Mae dyn o Feirionnydd am redeg ym Marathon Llundain y mis yma i godi arian tuag at elusen sy’n helpu plant a phobl gyda chyflwr meddygol sy’n effeithio ar eu golwg.
Bydd Cai Newell Jones, yn wreiddiol o Lanuwchllyn ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nolgellau, yn codi arian tuag at MACS (Microphthalmia, Anophthalmia & Coloboma Support) sydd yn cefnogi plant ac oedolion wedi eu geni heb lygaid neu gyda llygaid sydd heb ddatblygu yn iawn.
Dywedodd Cai: “Rwyf wedi dewis yr elusen yma oherwydd ei fod yn agos iawn at fy nghalon. Ym mis Ebrill 2021 cafodd fy mab, Hari, ei eni gyda microphthalmia, ac mae’r elusen yma wedi bod yn gysur a chefnogaeth mawr i mi a’m teulu mewn amser heriol iawn.”
Mae Cai yn anelu i gasglu £1,500 i’r elusen.
Llun: Cai a’i fab Hari sy’n dioddef o microphthalmia
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Da iawn Cai pob lwc
Diolch yn fawr iawn am rannu y stori a diolch i bawb am eich amser i ddarllen, plis cliciwch ar i linc i gyfrannu os rydych yn gallu – https://2024tcslondonmarathon.enthuse.com/pf/cai-jones
Heli Cai
Mona ydwi ac yn un o ohebwyr papur Bro Llygad y Dydd, wyt ti yn hapus i mi roi hwn yn y papur, neu a oes angen caniatâd Y Cymro. Hwyrach y cawn ychydig o hanes wedi’r daith.
Pob hwyl xx
Diolch Mona, cerwch amdani!