Rhifyn Chwefror Y Cymro

Newyddion

Mae datganoli yng Nghymru yn hen hanes erbyn hyn ac yn ddigon diogel ei sail siŵr?

Wel nag ydi yn ôl adroddiad y comisiwn annibynnol diweddar sydd yn dadlau bod digon angen i’w wneud i sicrhau ei ddyfodol – heb sôn am symud ymlaen at annibyniaeth llwyr.

Dywedodd cyd-gadeirydd y comisiwn, yr Athro Laura McAllister: “Daeth yn amlwg nad yw’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac nad yw anghenion pobl Cymru yn cael eu diwallu.’ Darllenwch am yr holl opsiynau o’n blaenau ni felly yn rhifyn Chwefror Y Cymro.

A be am fywyd rhamantus? – oes y fath beth yn bod y dyddiau hyn a stori gariad draddodiadol ble mae un moment hudolus o ffawd yn newid bywydau? Wel nag oes meddai’r colofnydd Cadi Edwards sy’n tynnu sylw at sut mae’r apps dêtio wedi cymryd drosodd ein byd. Meddai: “Mae’r holl beth wedi troi’n broses mor arwynebol, y rhamant wedi’i sugno ohono’n llwyr.”

Myfyrio ar Rishi Sunak a’r Spice Girls mae Bethan Jones Parry y mis hwn wrth lunio rhestr hir o’r hyn tydi hi rili, rili ddim am eu gweld yn digwydd yn ein gwlad wrth i’r etholiad gyffredinol gymryd siâp ar y gorwel.  Ymysg ei gofynion dywedai: “Tydw i ddim eisiau gweld gwleidyddion o Loegr na thu hwnt yn busnesu ym musnes Cymru.”

Canmol y tro ‘ma mae ein colofnydd ar y cyfryngau Dylan Wyn Williams wrth dynnu sylw at y fath raglenni roedd o am weld… ac wedyn: “sôn am sbŵci,
achos cafwyd datganiad i’r wasg gan y Sianel yn ategu’r union beth, wrth gyhoeddi drama newydd”

1066 a hynny oll! – wel jyst cyn hynny roedd brenin ‘dros holl hil Cymru’ yn gwrthwynebu un o frenhinoedd enwocaf Lloegr. Yr hanesydd Melfyn Hopkins sydd â’r stori gyffrous y mis hwn.

Ac mae artistiaid Cymreig fel pe baent yn cyrraedd o nunlle efo caneuon radio gyfeillgar gwych y dyddiau hyn. Y colofnydd Hefin Jos sy’n gofyn sut felly?

Pawb yn cofio un o gestyll Cymru ar ddechrau ffilm enwog Monty Python? – wel pa lefydd eraill yn ein gwlad sydd wedi denu sylw’r cyfarwyddwyr ffilm dros y blynyddoedd?

Darllenwch lawer mwy am hyn oll yn rhifyn Chwefror Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau