Mae rhifyn Ionawr Y Cymro ar gael yn y siopau erbyn hyn a’r ddadl a’r ddeiseb i gael gwared ar yr enw ‘Wales’ a defnyddio ‘Cymru’ yn unig sy’n hawlio’r sylw ar y dudalen flaen tro ‘ma.
Erbyn hyn mae’r ddeiseb wedi derbyn 10,698 llofnod ac mae ar agor am bum mis arall.
Meddai’r cyn-athro Arfon Jones a’i creodd: “Mae’r byd i gyd bron yn gwybod am Wales oherwydd ei chysylltiad Seisnig â Lloegr ers 1282. Nid oes fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig.”
Pwnc arall sydd dan drafodaeth – ac sydd yn barod wedi cael sylw mawr ar draws y cyfryngau – yw sylwadau’r bardd a’r cerddor Twm Morys am y bar ar faes y Steddfod.
Meddai Twm mewn cyfweliad arbennig efo’r Cymro – wrth gydnabod fod ei farn am y bar wedi newid yn llwyr: “Oeddan ni wrth ein bodda, peth gora o’dd wedi digwydd yn oes yr Eisteddfod erioed. Ond o dipyn i beth dwi wedi sylweddoli i’r gwrthwyneb ei fod yn un o’r pethe gwaetha sydd wedi digwydd yn hanes yr Eisteddfod achos dwi ar fai fel pawb arall. Rheini ohona’ ni sy’n aros yn y maes carafanau, mynd i’r maes, gwneud ein gwaith, mynd i’r bar, canu, ‘dan ni ddim yn mynd ddim mwy i’r tai tafarn lleol sydd wedi paratoi ers misoedd i brynu llwyth o gwrw, byntings yn bob man, wedi cyflogi staff ychwanegol, wedi dysgu mwy o Gymraeg ac ati.”
Ac yn ôl Heledd Gwyndaf dylai ymgyrch ddiweddaraf Comisiynydd y Gymraeg ‘Defnyddia dy Gymraeg’ fod yn destun pryder i ni. Darllenwch pam yn ei cholofn.
A’r dyddiau hynny pan roedd prif ddinas Cymru yn Lloegr. Be?… sut felly? Well, yr hanesydd mel Hopkins sydd yn egluro’r cwbl yn ei golofn y mis hwn.
Darllenwch lawer mwy am hyn oll yn rhifyn Ionawr Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.