Mae rhifyn Rhagfyr yn y siopau erbyn hyn a chyfweliad arbennig Y Cymro gyda’r ffermwr enwog Gareth Wyn Jones sy’n hawlio’r sylw ar y dudalen flaen.
A chlir iawn yw ei farn hefyd ar ambell bwnc cyfoes.
Ydi, mae’r dyn sydd â miliwn a hanner o ddilynwyr ar YouTube a chwarter miliwn arall ar Facebook yn rhoi’r byd yn ei le wrth sgwrsio â Deian ap Rhisiart.
Yn adnabyddus am ei syniadau diamwys mae’n troi ei sylw at adael yr Undeb Ewropeaidd ymysg llu o bethau eraill. Meddai: “Con mwyaf oedd Brexit. Boncyrs yn doedd. Mi oedd Ewrop yn farchnad agored i’n cig oen a’n cig eidion. Heb yr Undeb Ewropeaidd, fase llawer o ffermwyr Cymru mewn uffar o dwll heddiw.”
Gofyn iddo’i hun os mai ar i fyny neu ar i lawr mae ein hiaith mae Dafydd Iwan yn ei golofn. Ychydig o’r ddau yw hi ar yr un pryd mae’n siŵr wrth iddo gyferbynnu deffroad amlwg y Gymraeg mewn ardaloedd lle nad oedd diddordeb i’w weld gynt gyda sefyllfa’r iaith ym myd y banciau mawr. Meddai: “…nid ennill tir y mae’r Gymraeg yn y banciau, ond colli tir, a diflannu’n llwyr mewn sawl achos. A rhain oedd y sefydliadau a achubwyd gan biliynau o bunnau cyhoeddus yn 2008 – gan eich arian chi a fi, druan ohonom!”
Newyddion mawr am ei pherthynas sydd gan Cadi Edwards wrth fyfyrio yn ei cholofn ar natur hudol a chymhleth bod mewn cariad ar drothwy’r ‘Dolig.
A ble mae caer Rufeinig goll Cymru? Mae hi’n sicr yma yn rhywle yn ôl pob cyfrif hanesyddol. Mel Hopkins sy’n rhoi ambell i gliw amdani’r mis hwn.
Darllenwch lawer mwy am hyn oll yn Rhifyn Rhagfyr Y Cymro sydd ar gael rŵan o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Nadolig Llawen i’n holl ddarllenwyr a’n hysbysebwyr.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.