Mae rhifyn Tachwedd yn y siopau erbyn hyn ac agwedd arall ar gyfoeth Ystâd y Goron yng Nghymru sy’n cael y sylw ar y dudalen flaen.
Oce, mae’n hen hanes wedi hir fynd ond peidiwch anghofio’r rheswm pam y codwyd cestyll anferthol Edward, brenin Lloegr yn ein gwlad yn y lle cyntaf. Beth bynnag – y ni sydd pia nhw rŵan ynte?
Nid felly – fel mae hi’n edrych, ac mae Dafydd Iwan yn gwneud y pwynt hynny yn gryno yn ei hunangofiant newydd.
Meddai: “…a cham cyntaf gwych fyddai i’r Goron ddychwelyd i bobl Cymru ei heiddo helaeth, gan gynnwys ein hardaloedd arfordirol cyfoethog a’r cestyll a godwyd gan Edward i’n cadw yn ein lle.”
Costau byw pobl ifanc sy’n byw yn ein Prifddinas sydd ar feddwl y colofnydd Cadi Edwards – a hynny wrth grafu pen yn meddwl beth i’w wneud ynglŷn â’r peth. Meddai: “Mi ydw i’n wynebu penbleth, wrth fy modd gyda’r ardal, yn hoff iawn o’r tŷ ond dwi’n gwybod fel ffaith na fydd fy nghyfrif banc yn diolch i mi os ydw i’n penderfynu aros yna.”
Yr enwog Max Boyce yn cysgu ar y llawr? – sut hynny felly? Wel dyna gofiant y colofnydd Lyn Ebenezer wrth iddo edrych ‘nol at ddyddiau cynnar gyrfa Max a phan fu iddo aros yn ei dŷ ar ôl perfformio yn Aberystwyth. Meddai amdano: “Ei gyfrinach fawr yw iddo beidio erioed â cheisio bod yn rhywbeth nad ydyw. Pen-blwydd Hapus, Max.”
Mae hefyd sôn yn y rhifyn am yr awdur a’r actor adnabyddus Cefin Roberts sydd i’w weld ar lwyfan eto wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 70. Meddai: “I ddathlu cyrraedd oed yr addewid dwi am fentro yn ôl i’r llwyfan ar fy liwt ac ar fy mhen fy hun y tro yma.”
Mae’r hanesydd Mel Hopkins ar drywydd hanes y Cymry ar ynys Barbados bell. Beth yw stori wir yr ynys wyliau hon?… a beth am y digwyddiadau goruwchnaturiol?
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.
Mae rhifyn Tachwedd Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.