Rhifyn Hydref Y Cymro

Newyddion
Siŵr ddigon os yw rhywbeth yn ddigon da i’n cefnderoedd Celtaidd yn yr Alban felly dylai fod yn iawn i ni hefyd?
 
Ond nid felly mae’n edrych wrth drafod datganoli cyfoeth enfawr Ystâd y Goron yng Nghymru.
 
Mae’r ddadl dros sortio’r annhegwch wedi bod yn codi stêm ers beth amser ac erbyn hyn mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts yn dweud mai digon yw digon.
 
Dywedodd: “Mae cyfoeth cynyddol asedau Cymreig Ystâd y Goron ynghanol tlodi cynyddol yn ein hatgoffa o’r annhegwch sydd wrth wraidd y Deyrnas Unedig. Gallai’r elw sy’n deillio o’r asedau hyn, sy’n werth £853m, danio chwyldro diwydiannol gwyrdd Cymreig.” 
 
A phan ddaw hi i ddatganoli darlledu i Gymru – hawlio pwerau sydd raid i ni wneud yn ôl Heledd Gwyndaf yn ei cholofn y mis yma. Meddai “…mae datganoli yn broses. Ond yn broses sydd angen ei gwthio yn ei blaen, wnaiff hi ddim symud ar ei phen ei hun.  Dw i’n ffan mawr o hawlio pwerau a bwrw ymlaen – fyddwn ni yma hyd Ddydd y Farn os ydyn ni’n disgwyl i sefydliad Lloegr eu rhoi ar blât i ni” 
 
Ac wrth gwrs mae digon i’w ddarllen am y stŵr diddiwedd dros y terfyn cyflymdra newydd – glywsoch chi amdano tybed? Does dim tro pedol gan ein llywodraeth ac meddai’r dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters: “Pan mae cyfyngiadau cyflymder yn is, mae pobl yn teimlo’n fwy diogel i feicio a cherdded, felly mae llai o bobl yn gyrru.” 
 
Beth am straeon y ‘gannwyll gorff’ yn ein chwedloniaeth – y golau dychrynllyd hwnnw sy’n ein tywys tua bedd y rhai fydd nesaf i farw? Cawn wybod beth sydd tu ôl i’r straeon oll yng ngholofn hanes Melfyn Hopkins y mis yma.
 
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.
 
Mae rhifyn Hydref Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau