Oes y fath beth â gormod tybed? Wel oes wir os mai ‘ymwelwyr’ i’n gwlad hardd sydd dan sylw yn ôl ambell un.
Ydi, mae twristiaeth yn bwysig – ond pryd mae gorlif yn troi’n niweidiol i’n hunaniaeth? Meddai Bethan Jones Parry yn ei cholofn: “mae gan bawb hawl i fyw adref a hynny trwy gydol y flwyddyn nid pan mae pob ymwelydd wedi troi am adref” Darllenwch mwy yn rhifyn Medi.
Ac wrth glodfori llwyddiannau haeddiannol diweddar y ‘Llewesau’ yng Nghwpan y Byd, cwestiynu mae Dafydd Iwan pam bod y cyfryngau Seisnig yn ein gweld ni gyd fel Saeson bob tro mae ‘na rywbeth i fod yn falch ohono. Meddai: “A bod yn deg a chwbl ddi-duedd, dwi ddim am dynnu dim oddi wrth y chwaraewyr eu hunain: roedden nhw’n dîm da…. Ond am y cyfryngau – onid yw’n bryd i rywun eu hatgoffa fod gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ein timau cenedlaethol ni ein hunain?”
Oes trysor o anifeiliaid aur wedi ei guddio o dan un o gestyll Cymru? – Wel oes, yn ôl yr hen chwedlau. Archwilio’r hanesion di-rif am gaer drawiadol a adeiladwyd mewn adeg gythryblus yn ein hanes mae’r hanesydd Melfyn Hopkins y mis yma.
A lle yn union mae’r lle hyfryd ‘na ‘yngnghymrualloegr’? – Heledd Gwyndaf sy’n ein tywys yno yn ofalus yn ei cholofn.
Mae manylion yr Eisteddfod wych ddiweddar hefyd yn cael digon o sylw yn y rhifyn gyda barn arni o bob pegwn.
Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.
Mae rhifyn Medi Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.