Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

Mae’r Steddfod yn cael digon o sylw yn rhifyn Awst Y Cymro wrth gwrs ond beth am ei dyfodol fel gŵyl symudol?

 

Rhywbeth dylai fyth newid yn ôl ambell un ond mae Dafydd Iwan yn dadlau’n wahanol. Meddai: “Rwy’n parhau o’r farn y bydd materion ariannol yn ein gorfodi yn hwyr neu’n hwyrach i ystyried dewisiadau eraill.”

Pawb yn cytuno felly?

 

Myfyrio ar fywyd fel dynes sengl am y tro cynta’ ers 15 mlynedd mae Esyllt Sears y mis yma – ac wrthi’n penderfynu pa app dêtio sydd orau i’w ddefnyddio. Darllenwch ei hymchwil yn ei cholofn. Meddai: ‘Mae e’n teimlo fel ‘mod i wedi bod mewn coma ers 2008 pan o’t ti’n cwrdd â phartner yn bennaf mewn bar neu, os o’t ti’n lwcus, drwy ffrind’

 

Mae go lew o drafod hefyd am y diweddaraf yn yr ymgyrch dros annibyniaeth a’r ffigyrau diweddar hynny sy’n dangos y bydd 53% o Gymry ifanc rŵan yn pleidleisio dros annibyniaeth.

 

A chofio Eisteddfod hanner mileniwm yn ôl mae’r hanesydd Melfyn Hopkins. Pam roedd Eisteddfod Caerwys mor bwysig tybed?

 

Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.

Mae rhifyn Awst Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau