Mi oedd Gŵyl y Dyn Gwyrdd ger Crughywel yn llwyddiant arall eleni gydag oddeutu 25,000 o bobol yn mynychu eto’r flwyddyn yma. Y prif bennawd-fandiau oedd Self Esteem, Devo (mewn glaw trwm yn pistillio dros flaen y llwyfan) a First Aid kit. Bandiau eraill wnaeth ddenu’r torfeydd oedd Young Fathers, Confidence Man ac Amyl and the Sniffers o Awstralia.
Rhai o’r prif fandiau Cymraeg a Chymreig oedd yn chwarae oedd Melin Melyn, Rogue Jones, Hyll, Gareth Bonello, H Hawkline ac DD Darillo.

Dechreuodd yr ŵyl yn 2003 a hon ydi 21ain blwyddyn yr ŵyl. Mae’r ŵyl yn cyfrannu £15 miliwn i’r economi Gymreig bob blwyddyn ac yn rhoi blaenoriaeth ar ddefnyddio busnesau a chynnyrch lleol a Chymreig yn yr ŵyl.

Gyda 12 llwyfan a dros 1000 o artistiaid yn perfformio bob blwyddyn, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o bedwar gŵyl arall yn unig gyda dros 21,000 o ymwelwyr sydd dal yn annibynnol – nid oes noddwyr i ddwyn perswâd ac i effeithio ar annibyniaeth yr ŵyl.

Hon hefyd yw’r unig wyl sylweddol ei maint ble mae dynes (Fiona Stewart) gyda mwyafrif o berchnogaeth a rheolaeth dros yr ŵyl.





Prif lun: Amy Taylor o’r band Amyl and the Sniffers. Lluniau Y Cymro gan Laura Nunez @shes_got_spies
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.