Cafwyd perfformiad arbennig gan Pulp o flaen oddeutu 7000 o bobol yn y CIA yng Nghaerdydd yn gynharach heno, gydag ymateb trydanol gan y gynulleidfa a dau encore ar ddiwedd y noson. Hwn ydi gig cyntaf y band yng Nghymru ers dros chwarter canrif.
Chwaraeodd y band ei holl glasuron o’r 90’au; Common People, Disco 2000, Sorted for E’s & Wizz, Mis-Shapes, Babies, Underwear a mwy. Cyflwynodd Jarvis Cocker, prif ganwr y band, y gan Underwear fel ‘Dillad Isaf’.
Siaradodd Jarvis dipyn o Gymraeg rhwng caneuon yn ogystal – rhywbeth sydd yn dod yn gynyddol gyffredin gan berfformwyr o du allan i Gymru sy’n perfformio yng Nghymru yn ddiweddar.
Mae Pulp ar daith o gwmpas Prydain ac Iwerddon ar hyn o bryd, cyn teithio ymhellach yn nes ymlaen yn y flwyddyn
Lluniau gan Laura Nunez
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Erthygl da. Roeddwn i’n hoffi’r prif lun ag hefyd yn Falch clywed fod Jarvis wedi siarad ychydig o Gymraeg 👍🏼