Rhifyn Ebrill Y Cymro

Newyddion

Y freuddwyd o wella addysg Gymraeg hyd nes bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn gallu siarad ein hiaith sy’n cael sylw ar dudalen flaen rhifyn Ebrill.

Wrth i’r Llywodraeth  gyhoeddi Papur Gwyn sy’n amlinellu cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg newydd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rydym wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae gan bawb y gallu a’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Dyna pam rydym yn ymgynghori ar argymhellion i roi ein hamcanion mewn cyfraith ac i wella sgiliau Cymraeg ym mhob ysgol.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac felly mae’n bwysig bod pawb yn cael dweud eu dweud. Ewch ati i ymateb i’r ymgynghoriad a rhannu eich barn.”

Ac ar yr un pryd cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ei chynigion ar gyfer deddf. Meddai Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg y Gymdeithas: “Mae’r papur gwyn yn gam pwysig ymlaen, ac yn dangos bod y Llywodraeth yn derbyn bod angen trawsnewid ein system addysg. Ond dim ond man cychwyn yw’r papur gwyn ac rydyn ni’n deall nad yw’r cynigion ar hyn o bryd yn gosod targedau statudol cadarn fydd yn sicrhau bod pob plentyn yn tyfu lan yn siaradwr Cymraeg hyderus.

“Mae peryg bod y targedau sydd ynddo yn rhy isel, y nod yn rhy amwys, a’r camau gweithredu yn annigonol”

Mae hefyd adroddiad arbennig gan Eryl Crump am y ‘pryderon difrifol’ am stad y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac yn benodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Gogledd. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ‘wedi torri’. Ond amddiffyn y gwasanaeth mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Er gwaethaf y pwysau cyson ar wasanaethau dros y gaeaf, mae’r darlun cyffredinol ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror yn un o gynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd. Rwyf wedi nodi’n glir i arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd fy mod yn disgwyl i’r gwelliannau hyn barhau, a hynny’n gyflymach wrth inni gyrraedd y misoedd cynhesach.

Peidiwch ag edrych gormod ar y cymylau duon yw neges Dafydd Iwan yn ei golofn y mis hwn. Meddai: “Y peth hawsa’n y byd yw bod yn ddigalon ynglŷn â dyfodol yr Iaith Gymraeg, a gweld dim ond arwyddion o golli tir ar bob llaw. Ond byddwn yn ofalus! Gallwn, wrth fod yn ddigalon ac wrth ganolbwyntio ar arwyddion gwae, brysuro ei thranc.

Does dim rhaid i’r iaith farw, nid yw ei thranc yn anochel. Yn wir, mae’n haws iddi fyw na marw.”

Poeni ryw ychydig am y dyfodol mae Cadi Edwards wrth edrych yn fanwl ar beth yn union mae A.I. yn gwneud i’n bywydau pob dydd. Meddai: “Yn sicr, un newid pendant yw gallu pobl i gyfathrebu. Wrth i negeseuon destun ddisodli sgyrsiau ffôn, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb droi’n drefniadau Zoom, a’r bwgan hwnnw COVID-19 wedi ein gwneud yn ynysig ac yn swil.

Yn y bôn, does fawr ryfedd bod pobl ifanc wedi dechrau colli eu sgiliau cyfathrebu gan droi at dechnegau osgoi… eithafol… i ddweud y lleiaf.”

Neidio’r Siarc …neu’r foment honno pan mae rhywbeth a oedd unwaith yn boblogaidd yn mynd jyst rhy bell yw pwnc y colofnydd Trefor Jones a chanmol y ffilm ddiweddar Y Sŵn mae Dylan Wyn Williams yn ei golofn  …er cyfaddef ei fod braidd yn nerfus ar y dechrau.

Darllenwch fwy am y pynciau uchod a llawer mwy.

Mae rhifyn Ebrill Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau