DROS 3,500 YN RHAN O DDATHLIADAU LANSIO EISTEDDFOD RHONDDA CYNON TAF
Daeth dros 3,500 o drigolion lleol i ddathlu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i ardal Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf. Gyda rhaglen llawn o weithgareddau’n rhoi blas o’r Eisteddfod ar stepen y drws, roedd y digwyddiad yn nhafarn Y Lion, Treorci yn llwyddiant mawr.
Dyma’r digwyddiad mawr cyntaf i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl leol i ymuno â thîm yr Eisteddfod am y flwyddyn a hanner nesaf. Mae’n dilyn prosiect cymunedol dros y deunaw mis nesaf sydd wedi canolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd anodd i’w cyrraedd a chreu cysylltiadau ym mhob cwr o Rondda, Cynon a Thaf. Ariannwyd yr ŵyl gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf.
A chyda’r lansiad wedi’i gynnal, mae golygon trefnwyr Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn troi at y gwaith o godi ymwybyddiaeth, trefnu gweithgareddau lleol a chasglu arian, ynghyd â gweithio ar y rhestr testunau a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.
Bydd y gwaith hwn yn cychwyn yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest, nos Iau 16 Mawrth am 19:00, gyda chyfle i glywed mwy am y cynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod ei hun, ynghyd â gwybodaeth am y pwyllgorau unigol.
Wrth annog pobl leol i ddod i helpu gyda’r trefniadau, meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, “Rydyn ni i gyd wedi cael ein hysbrydoli gan y lansiad yn Nhreorci ac yn edrych ymlaen at greu’r tîm yma yn Rhondda Cynon Taf i lywio’r gwaith o dynnu ein Heisteddfod ni at ei gilydd dros y deunaw mis nesaf.
“Dewch i glywed mwy am y cyfleoedd sydd ar gael. Rydyn ni angen criw gweithgar a hwyliog o bob rhan o’r dalgylch sydd â diddordeb ,mewn pob math o bethau, o greu cystadlaethau a meddwl am sesiynau i’n helpu ni i drefnu gweithgareddau lleol yn ein cymunedau a’n pentrefi ac i ddweud wrth bawb yn Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ein bod ni’n gweithio ar ŵyl i’w chofio ym mis Awst 2024.”
Bydd y pwyllgorau sy’n gweithio ar y rhestr testunau’n dechrau trafod ddydd Sadwrn 18 Mawrth am 10:30, gan ddychwelyd i Brifysgol De Cymru, Trefforest ar gyfer y cyfarfod hwn, gyda chyfle i drafod syniadau a themâu gydag aelodau o banelau canolog yr Eisteddfod hefyd.
Ewch i https://eisteddfod.cymru/2024-pwyllgorau-testun am ragor o wybodaeth ac i gofrestru.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddechrau Awst 2024.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.