Cefnogi allforion Cymru

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i gefnogi allforion Cymru

Wrth annerch cynhadledd flynyddol “Archwilio Allforio Cymru”, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn cyhoeddi raglen cymorth allforio lawn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 a buddsoddiad o £4 miliwn i’w darparu.

Bydd y Gweinidog yn ystyried y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddarparu Cynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd sydd i ddod.

Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn rhan allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu. Mae’r Cynllun yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o raglenni allforio, gan weithio gyda’r ‘eco-system allforio’ ehangach, i gefnogi busnesau ar bob cam o’u taith allforio, o:

  1. ysbrydoli busnesau i allforio
  2. creu gallu i allforio
  3. dod o hyd i gwsmeriaid tramor; a
  4. chael mynediad at farchnadoedd tramor.

Bu nifer o allforwyr llwyddiannus o Gymru – Cwmnïau Allforio Enghreifftiol Llywodraeth Cymru – yn arddangos eu taith allforio yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd allforio i dwf eu busnes. Mae’r rhaglen Cwmnïau Allforio Enghreifftiol yn tynnu sylw at lwyddiannau mentrau bach a chanolig Cymru (BBaCh) sydd eisoes yn allforio, er mwyn ysbrydoli eraill i fanteisio ar y daith allforio. Un o’r busnesau hynny sydd wedi gweld llwyddiant yw Atlantic Service Company (ASC) yn y Coed Duon. Mae’r cwmni wedi gweld twf aruthrol yn ystod y deng mlynedd diwethaf ac wedi symud i safle newydd yn haf 2022. Mae’r twf hwn wedi digwydd bron yn gyfan gwbl drwy allforion ac mae’r cwmni bellach yn gwerthu i dros 50 o wledydd ar draws pob cyfandir.

Mae ASC yn parhau i annog busnesau i weithio gyda thîm allforion Llywodraeth Cymru a bu Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru yn agor canolfan newydd y cwmni yn ffurfiol ddoe.

Wrth gyhoeddi’r cymorth i allforwyr o Gymru, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae allforio yn hanfodol i lawer o’n busnesau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w cefnogi i ehangu a llwyddo drwy ein Cynllun Gweithredu Allforio.

“Drwy ein Cynllun, rydym yn darparu ystod eang o gefnogaeth i fusnesau yng Nghymru i hybu twf mewn allforion yn y tymor hwy, er gwaethaf yr heriau parhaus yn yr amgylchedd masnachu byd-eang.

“Rwy’n falch o gyhoeddi’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd hwn er mwyn parhau i gefnogi busnesau Cymru i ddatblygu eu hallforion, o ystyried pwysigrwydd allforio i dwf busnesau a’r economi drwyddi draw.

“Roeddwn hefyd yn falch iawn o agor canolfan newydd Atlantic Service Company ddoe yn ffurfiol ac mae eu twf a’u llwyddiant o ran allforio yn ysbrydoliaeth gwirioneddol i fusnesau eraill ledled Cymru.  Rwy’n falch iawn ohonynt fel un o’n Cwmnïau Allforio Enghreifftiol.  Rwy’n annog allforwyr presennol ac allforwyr posibl i gysylltu â Thîm Allforio Llywodraeth Cymru, trwy Busnes Cymru, i weld sut y gallwn helpu eu busnesau hwy hefyd.”

Meddai Martin Hughes, Rheolwr-Gyfarwyddwr Atlantic Service Company:

“Oherwydd lefelau uchel o dwf, yn y deng mlynedd diwethaf yn enwedig, mae Atlantic Service Company yn rhy fawr i’n cartref gwreiddiol ers deugain mlynedd gan symud i’n safle newydd yn 2022.

Mae’r safle newydd dair gwaith yn fwy na’r cartref blaenorol ac mae ein twf wedi digwydd bron yn gyfan gwbl drwy allforion.

“Byddwn i’n argymell unrhyw gwmni yng Nghymru sy’n ystyried allforio i gysylltu â Llywodraeth Cymru. Fydden ni ddim wedi tyfu mor gyflym fel cwmni oni bai am eu cefnogaeth.”

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau