Rhifyn Rhagfyr Y Cymro

Newyddion

Mae rhifyn Rhagfyr Y Cymro yn y siopau erbyn hyn gyda barn ar bob math o bynciau fel arfer.

Ond mae un ddadl yn parhau o fis i fis heb ddatrysiad – sefyllfa argyfwng y tai haf sydd yn cael cymaint o effaith ddinistriol ar ein cymunedau Cymreig.

Wrth ofyn i gynghorau Cymru wneud mwy o’u pwerau ynglŷn â’r sefyllfa, dywedodd Osian Jones ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth:

“Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon chwaith – mae wedi bod yn araf i roi canllawiau i gynghorau am eu grymoedd newydd, a does dim sôn o hyd am arian nac adnoddau ar gyfer y gwaith ychwanegol fydd gan gynghorau.”

“Tra bod ein cymunedau yn colli stoc tai a phobl leol yn gorfod gadael eu cymunedau dydy’n cynghorau na’r Llywodraeth ddim yn gwneud digon, nac yn gweithredu’n ddigon sydyn.

Byddwn ni’n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ar Ragfyr 17 i bwyso ar gynghorau ar draws Cymru i wneud defnydd llawn o’r grymoedd sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â phroblem ail dai, yn ogystal â galw arnyn nhw i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn fydd yn rheoleiddio’r farchnad dai.”

Ymwrthod â’r meddylfryd mai’r iaith Saesneg yw canolbwynt y byd sydd gan Heledd Gwyndaf fel pwynt barn y mis yma. Meddai:

“Cyfeiriwyd at yr Wyddfa gan rai ‘newyddiadurwyr’ fel ‘new name’ ond hefyd dywedwyd nad oedd ‘people’ yn gallu ei ddweud. Dw i’n credu mod i’n berson, a dw i’n gallu dweud ‘Yr Wyddfa’ yn iawn. Ond nid fi yw’r ‘people’ wrth gwrs. Dw i ddim yn ‘berson normal’. Pobl uniaith Saesneg yw’r ‘people’ ac iddyn nhw mae’n rhaid i ni gyd gowtowio, yn amlwg.”

‘Mam, beth yw pwynt pêl-droed?’ – dyna’r cwestiwn roedd yn rhaid i Esyllt Sears ateb gan ei merch naw oed. Be oedd yr ateb tybed? Darllenwch ei cholofn yn y rhifyn yma.

A Chwpan Nanteos sydd gan yr hanesydd Mel Hopkins fel testun i’w golofn y mis hwn. Beth yn union yw hanes y bowlen bren syml a’r grym iachau goruwchnaturiol?

Mae rhifyn Rhagfyr Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau