Cyfleusterau cymunedol ledled Cymru yn elwa ar gyllid ychwanegol

Newyddion
Bydd cyfleusterau cymunedol ledled Cymru yn elwa ar gyllid ychwanegol ‘hanfodol’ gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i orffen gwaith adnewyddu. Roedd hi wedi bod yn anodd aros o fewn cyllidebau gwreiddiol y prosiectau oherwydd costau cynyddol cyflenwadau adeiladu.

Bydd mwy na £303,000 o gyllid ychwanegol yn mynd tuag at bum prosiect mwy o faint.

Mae 15 o brosiectau i gyd yn cael cyllid gwerth cyfanswm o £467,000 yn y cylch hwn o’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Roedd hyn yn cynnwys £164,000 tuag at ddeg prosiect llai, pob un yn cael grant o dan £25,000.

Gall symiau bach o gyllid grant ddarparu newid mawr i gyfleusterau cymunedol.

Mae cyllid y rhaglen yn mynd at brynu a gwella cyfleusterau sy’n darparu cyfleoedd i bobl leol wella eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae’r prosiectau llai yn cynnwys £13,000 tuag at sicrhau bod gofod coetir yn Bluegreen Cymru yng Nghoed Glanteifi, Sir Benfro yn fwy hygyrch ar hyd y flwyddyn drwy greu llwybrau newydd, gosod stôf goed a chreu ardal dan do; £20,000 tuag at waith atgyweirio brys i atal dŵr rhag dod i mewn yn Neuadd Eglwys Sant Tomos yng Nghwm Clydach, Rhondda Cynon Taf; £11,000 tuag at uwchraddio’r gegin a’r gofod chwarae i greu canolfan glyd dros fisoedd y gaeaf yn Victory Church yng Nghwmbrân; ac £17,870 tuag at estyniad i’r gweithdy a gwelliannau er mwyn arbed ynni yn Dyfodol Disglair yn y Rhyl, Sir Ddinbych.

Mae’r prosiectau mwy o faint yn cynnwys £50,000 tuag at ffenestri newydd i wneud adeilad New Life Church yn Aberteifi, Ceredigion yn fwy cynaliadwy o ran costau ynni; £50,000 tuag at wella inswleiddiad sain ac adnewyddu adeilad allan i fod yn ofod hyblyg ar gyfer gweithdai cerddoriaeth, dawns a chelfyddydau yn y Tabernacl, Bethesda yng Ngwynedd; ac £87,100 tuag at adnewyddu canolfan gymunedol a gosod ffenestri newydd er mwyn gwneud YMCA Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf yn fwy effeithiol o ran ynni.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn gallu gorffen y prosiectau mwy o faint hyn fel y gall cymunedau ledled Cymru elwa arnynt.

“Oherwydd costau cynyddol deunyddiau, mae eu cyllidebau wedi eu gwasgu wrth iddynt ddod at ddiwedd eu prosiectau. Ni fyddent wedi gallu gwneud gwaith hanfodol fel trwsio toeon, gosod ffenestri newydd na gwneud gwelliannau arbed ynni heb gymorth ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gallu mwynhau’r cyfleusterau cymunedol hyn pan fyddant wedi eu gorffen, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y cynnydd a wneir arnynt.”

Dywedodd Stephen Johnson, cydlynydd cynaliadwyedd Dyfodol Disglair yn y Rhyl bod y cyllid wedi gwneud gwahaniaeth anferth iddynt hwy.

“Diolch i’r cyllid hwn rydym wedi gallu ymestyn y gweithdy ac mae mwy o le i bobl ynddo bellach,” meddai.

“Rydym wedi bod yn cynllunio’r estyniad ers cryn dipyn o amser, ond bellach rydym yn gallu ei gyflawni. Mae’r amseru yn berffaith gan fod nifer y bobl sydd am ddod yma yn cynyddu drwy’r amser.”

Ychwanegodd: “Mae’r gwelliannau arbed ynni hefyd wedi arbed cymaint o arian inni oddi ar ein biliau. Dydy pobl ddim eisiau aros yn eu tai, felly maen nhw’n gallu dod yma i gadw’n gynnes. Rydym wedi dechrau agor chwe diwrnod yr wythnos bellach.”

Dywedodd Sue Lewis, swyddog prosiect arweiniol Neuadd Bentref Aberporth yng Ngheredigion, lle mae gwaith yn cynnwys ailadeiladu un eiddo a moderneiddio ac ailwampio adeilad cyfagos, eu bod yn gobeithio gorffen mewn pryd erbyn Nadolig y flwyddyn nesaf.

“Yn y pen draw, mae’r cyllid hwn wedi golygu y gallwn gyflawni’r prosiect,” meddai.

“Mae’n mynd i drawsnewid ein cymuned yn llwyr. Wedi iddo gael ei orffen bydd gennym ganolbwynt i’r pentref. Bydd yn ganolfan gynnes a chroesawgar a fydd at ddefnydd pawb.”

Dywedodd Clyde Thomas, Gweinidog Arweiniol Victory Church yng Nghwmbrân: “Bydd y cyllid a ddarparwyd yn caniatáu inni uwchraddio ein gofod blaen y tŷ a chreu lle gwych i weithio, chwarae, cadw’n gynnes a chael bwyd.

“Yn ystod y cyfnod hwn sydd yn dod yn fwy ac yn fwy heriol i nifer o deuluoedd lleol, mae’r eglwys yn ceisio bod yn bwynt cyswllt cymunedol gwerthfawr sy’n cynnig gobaith a chymorth i bawb.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau