Y Cymry’n sefyll dros ddyfodol ein cymunedau a phrosiectau newydd i helpu twf yr iaith yw dau o’r pynciau, ymysg llawer mwy, o dan sylw yn rhifyn Mawrth Y Cymro.
Mae lluniau gan Lleucu Meinir ac adroddiad llawn am rali fawr Cymdeithas yr Iaith ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn Aberystwyth. Meddai Mabli Siriol, Cadeirydd y mudiad: “Rydyn ni’n ymgynnull 60 mlynedd ers darlledu darlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn hwyrach y flwyddyn honno. Rydyn ni’n gwybod popeth rydyn ni wedi ennill ers hynny, diolch i waith pobl gyffredin, ac rydyn ni’n hyderus y gwnawn ni ennill y frwydr hon hefyd.”
Cofio cyfarfod tad y chwedlonol Brendan Behan mewn tafarn yn Nulyn wrth goffáu Gwrthryfel y Pasg mae Lyn Ebenezer yn ei golofn. Meddai: “Yn Mooneys, daliais ar y cyfle i geisio sgwrsio ag ef. Cynghorodd y tafarnwr fi i fynd â wisgi dwbl iddo. Fe’i yfodd heb yngan gair. Yna trodd ei gefn. Dyma fynd â wisgi arall iddo gan ofyn iddo pam na wnâi siarad â fi…”
Canmol, ac eto pryderu, mae Heledd Gwyndaf yn ei cholofn sy’n tynnu sylw at y cyhoeddiad y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ac i holl staff addysgu. Meddai: “Mae’r cynnig hwn fel rhan o becyn llawer mwy yn ddigon derbyniol. Y broblem ydy, shimpil a thlawd iawn yw gweddill y pecyn hwnnw … sy’n gwneud i rywun amau fod disgwyl i ni, yng ngoleuni’r newyddion hwn glodfori a chanmol a thawelu …gan fod hyn yn mynd i achub yr iaith? Sgersli belîf.”
Canmol hefyd mae’r colofnydd Dylan Wyn Williams y mis hwn wrth sôn am y gyfres Stad: “drama sy’n swnio’n naturiol Gymraeg yn lle cyfieitheg cefn-wrth-gefn”
Mae rhifyn Mawrth Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.