Y ddadl barhaol ynglŷn â sut gallwn wneud yn siŵr ein bod yn cael gweld ein gwlad drwy lygaid Cymreig sy’n cael y sylw yn rhifyn Chwefror Y Cymro.
Ydi, mae’r ffrae newydd dros ariannu’r BBC wedi codi’r un hen fwgan – y rheidrwydd i flaenoriaethu ein straeon a’n hiaith NI ar ein cyfryngau.
Mae ambell stori newyddion a darnau barn yn y rhifyn yn datgan yr un neges gyffredinol – bod yn rhaid i’n cyfryngau adlewyrchu ein hanghenion ni – nid blaenoriaethau cwmnïau ac awdurdodau tu hwnt i’r ffin.
Barn amserol sydd gan y colofnydd Cadi Edwards hefyd y mis hwn wrth ddatgan pa mor bwysig yw hi i gael dweud eich dweud ar bethau pwysig – a heb ofni cael eich ‘canslo’ chwaith!
Cofio un o nosweithiau mawr ei fywyd mae Dafydd Iwan yn ei golofn wrth adrodd hanes theatr y Lyric y noson cyn yr is-etholiad hanesyddol a enillwyd gan Gwynfor Evans – man cychwyn y daith tuag at annibyniaeth Cymru.
Meddai: “Yno ar y llwyfan o boptu Gwynfor roedd nifer o Gymry amlwg y mudiad cenedlaethol ac un canwr bach nerfus o Lanuwchllyn, yn rhyfeddu at drydan yr awyrgylch, a sicrwydd y fuddugoliaeth drannoeth yn codi yn donnau o’r gynulleidfa afieithus. Os ganwyd annibyniaeth Cymru o gwbl, roedd y noson honno yn sicr yn rhan o wewyr y geni.”
Mae rhifyn Chwefror Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.