Rhifyn Ionawr Y Cymro

Newyddion

Barn o bob pegwn ar yr hyn sydd raid ei newid yn y Gymru gyfoes i wella ein byd sy’n amlwg yn rhifyn Ionawr Y Cymro.

Datgan gobeithion dros y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth Lafur mae Dafydd Iwan. Mae’n dweud ei fod yn gwbl angenrheidiol os ydym am symud tuag at annibyniaeth. Ond cyn iddo esgor ar newid gwerth chweil mae angen i un peth sylfaenol newid – perthynas y Blaid Lafur yng Nghymru a’r blaid Lafur Brydeinig. Oes gobaith gall y cyntaf dorri’n rhydd o’r ail tybed?
 
Agwedd ‘pam lai’ sydd gan Esyllt Sears ar ddechrau’r flwyddyn wrth fyfyrio ar gael tatŵ – un bach classy wrth gwrs. ‘Sai’n poeni os neith e frifo – wi di cael dau o blant a wedi llosgi fy nhalcen gyda phâr o straighteners droeon. Bydda i’n fine’ meddai.

Operâu sebon Cymru sy’n cael sylw’r colofnydd Dylan Wyn Williams y mis hwn wedi iddo holi ffrindiau a pherthnasau ynglŷn â’u ffefrynnau.

Hanes hynod llongau’r Sbaenwyr ar ein harfordir ym mlynyddoedd cythryblus y 16eg ganrif sydd gan Mel Hopkins … a’r ysbiwyr o’r wlad hon fu’n anfon gwybodaeth am Loegr iddynt.

Gwerth pwyllgorau yw trywydd Gari Wyn Jones. Mae pawb wedi bod yn rhan o bwyllgor meddai ac: ‘Yn gyffredinol bydd y rhan fwyaf ohonon ni’n ystyried pwyllgorau fel pethau trwm, hirwyntog a diflas. Os hynny mae rhywbeth mawr o’i le!’

A gofyn am wneud yn siŵr bod athletwyr benywaidd disglair Cymru yn cael y sylw maen nhw’n ei haeddu mae’r colofnydd chwaraeon Sioned Dafydd.

Mae rhifyn Ionawr Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau