Mae Parc Bute yng Nghaerdydd yn safle i ŵyl golau wefreiddiol y Nadolig yma. Hwn yw’r ŵyl llwybr golau tymhorol fwyaf erioed i Gymru ei gweld.
Mae’r llwybr ym Mharc Bute yn mynd ag ymwelwyr ar daith wefreiddiol trwy ryfeddodau’r Nadolig yn un o hoff leoliadau’r brifddinas.
Mi all ymwelwyr ddisgwyl gweld arddangosfeydd golau hynod, gosodweithiau rhyngweithiol, ardal fflamau’r tân, coedwig tylwyth teg hudolus, sioeau laser a pheli drychau, yn ogystal â bwyd stryd lleol, gwin gaeaf a digonedd o hwyl yr ŵyl. Mae’r llwybr yn cymryd tua 60 munud ac mae hyb bwyd a diod ar ei ddiwedd, a chroeso i bobol aros cyhyd ag y dymunant.
Mae’r ŵyl yn agored i’r cyhoedd nes Ionawr y 3ydd 2022, yn ddibynnol ar unrhyw ddatganiadau pellach gan y llywodraeth am unrhyw gyfyngiadau posib pellach.
Pris y tocynnau:
Oedolion (16+) | £18, Plant (3-15) | £13, Plant o dan 2 | AM DDIM
Tocyn Teulu (2 oedolyn, 2 Blentyn / 1 Oedolyn, 3 Phlentyn) | £55
Am fwy o fanylion ac i brynu tocynnau ewch yma
Lluniau gan Laura Nunez/Y Cymro.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.