Rhifyn Rhagfyr Y Cymro

Newyddion

Y cyhoeddiad y bydd Grŵp Senedd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf sy’n hawlio prif sylw rhifyn Rhagfyr.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod “gan Lywodraeth Cymru Raglen Lywodraethu uchelgeisiol y bydd yn ei rhoi ar waith dros dymor y Senedd hon. Ond nid gennym ni yn unig y mae syniadau da, ac rydym yn barod i weithio gyda phleidiau blaengar pan fyddwn yn rhannu dyheadau y gellir eu gwireddu er budd pobl Cymru.”

Rhaid dweud mai ‘cawn weld’ yw’r ymateb mwyaf amlwg ond mae digon o frwdfrydedd hefyd bod y briodas arloesol yma yn cynnig cam bach i’r cyfeiriad cywir.

Argyfwng yr hinsawdd sydd gan Dafydd Iwan ar flaen ei feddwl y mis hwn, mae’n sôn sut i Gymru arloesi yn y gorffennol ac y gallwn ni wneud yn y dyfodol hefyd: “…ffordd i osgoi’r gwaetha yw trwy fanteisio ar bob cyfle i greu ynni  o haul a gwynt, dŵr afonydd a llynnoedd, a llanw’r môr; ac i ni yng Nghymru, efallai mai llanw’r môr yw’r ffynhonnell bwysicaf un.”

Ar yr un trywydd, tynnu sylw mae Esyllt Sears at ba mor anodd y gall fod i ni chwifio’n baneri gwyrdd – ond pa mor bwysig yw hi hefyd i bob un ohonom drio gwneud rhywbeth bach bob dydd.

Mae mwy hefyd am yr honiad bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu ‘anghyfiawnder’ amlwg os am sefyll prawf gyrru drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn rhifyn Rhagfyr mae araith angerddol Rhys Tudur yn rali Cymdeithas yr Iaith ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yng Nghaerdydd. Meddai Rhys: Be fyddwn ni yn neud mewn blynyddoedd dwch? Mi fyddwn ni’n ymweld â’n pentrefi fel dieithriaid, fel twristiaid, pob stryd yn strydoedd Aberstalwm. Dyna i chi ddigalon ’de, dyna chi be ydi tristwch.”  

Mae rhifyn Rhagfyr Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn copi drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau