Pam ddim felly?
Sylw i ddarn barn ynglŷn â’r her i ailystyried rheolaeth dros ein tir sydd ar dudalen flaen rhifyn Hydref Y Cymro.
Mewn cyfnod pan mae effaith annhegwch agweddau o’r farchnad dai ar gymunedau Cymreig ar ei waethaf, gofyn mae Gruffydd Meredith pam na all y Llywodraeth ystyried rheolau penodol i Gymru ond sydd wedi eu seilio ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd. Yn lle cnoi ar fin deunydd y system bresennol – a chyflawni fawr ddim hyd hyn – onid oes mwy o synnwyr yn y pendraw i symud i’r cyfeiriad yma?
Gofyn beth fydd dyfodol ein capeli mae Dafydd Iwan y mis yma, er bod ambell i un yn cael ei werthu mae hefyd yn gweld ysbryd newydd ar gerdded trwy ambell i gynllun diweddar. Meddai: “Mae’r hen ddyddiau da, pan oedd ein capeli yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol deinamig ar ben; rhaid ail-ddarganfod ein rôl a rhoi bywyd ac ystyr newydd i’r genhadaeth Gristnogol yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.”
Mae’r hanesydd Mel Hopkins eto ar drywydd digon difyr wrth adrodd hanes meddyg o America yn i Gymru i chwilio ogofâu am brawf nad Shakespeare ysgrifennodd y dramâu enwog. Treuliodd flynyddoedd a gwariodd ffortiwn wrth chwilio yn ofer am gyfres o gyfrolau.
Mewn oes sy’n gwyrddio o fis is fis ai dim ond ar y wyneb mae hynny? Codi pwynt dadleuol mae’r colofnydd Gari Wyn Jones wrth ofyn a ydy pwysigrwydd dyfodol ceir trydan yn cael ei orbwysleisio. Meddai: “Ymhen 20 mlynedd tybed a fydd yna do newydd o wleidyddion yn picellu a gwawdio y gwleidyddion hynny a ildiodd mor rhwydd i’r holl ddadleuon am rinweddau ceir trydan?”
Mae criw Sôn am Sin wrth eu bodd am ddychweliad gwyliau cerddoriaeth go iawn – gyda thorfeydd go iawn! – wrth roi sylw i Focus Wales yn Wrecsam a Gŵyl Sŵn yn y brif ddinas.
Meddai’r colofnwyr: “Ar ôl cymaint o amser, mae hi’n teimlo fel ein bod ni’n cael ein sbwylio” Ydi wir…
Mae ail ran cipolwg David Meredith ar hanes cwmni teledu HTV hefyd yn rhifyn Hydref. Hanes ei anterth gloyw a’i ddyddiau olaf sydd gennym y tro yma, wrth i athroniaeth Margaret Thatcher siglo seiliau ambell gwmni o’i fath. “Y melltith mwyaf a wynebodd y maes teledu annibynnol ym Mhrydain oedd pan ddaeth Margaret Thatcher i rym. Chwalodd y gyfundrefn yn rhacs. Caniatâwyd i gwmnïau brynu ei gilydd. Roedd dogma gwleidyddol ar waith a’r pysgod mawr yn llyncu’r pysgod llai”
Mae rhifyn Hydref Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.