Rhifyn Medi Y Cymro

Newyddion

Mae croeso oes – ond mae terfynau hefyd!

Y llif diddiwedd o ymwelwyr i’n gwlad hardd sy’n cael sylw sawl un yn rhifyn Medi Y Cymro. Faint sy’n dderbyniol, sut mae rheoli’r farchnad dai ac ydi pethau fel clustnodi ardal y llechi fel safle Treftadaeth Byd yn mynd i wneud pethau yn waeth?

A sôn am ymwelwyr, mae cyfeirio hefyd at y miloedd sydd wedi heidio i Eryri ers cyfnod y clo cyntaf. Gyda rhesi o bobl yn aros hyd at 45 munud i gyrraedd copa’r Wyddfa mae galw am fwy o barch at y mynydd a synnwyr cyffredin wrth drefnu ymweliad a’r mynyddoedd.

Mae sylw pellach i ymgyrch ‘Hawl i Fyw Adra’ a’i chynlluniau. Bron i flwyddyn ar ôl datgan pryderon am dwf ail gartrefi mewn ymgyrch drawiadol mae’r mudiad yn cynnal ail orymdaith o Lŷn i Gaernarfon i alw am weithredu buan ac yn datgan nad oes dim wedi ei gyflawni go iawn gan y llywodraeth, er yr holl eiriau dros y misoedd diweddar.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai “dim ond ceisio barn ar gwestiynau penagored mae’r ymgynghoriad, yn lle gosod allan y camau clir, pendant a radical sydd eu hangen”.

Mae’n galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif drwy osod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned, fel rhan o “[b]ecyn radical o fesurau” a bod angen “gwneud hyn fel mater o frys”.
Mae’r mudiad iaith hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch rhagair yr ymgynghoriad, sy’n honni: “Er nad yw’n broblem i Gymru gyfan, mae nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau wedi ennyn teimladau cryf mewn rhannau o Gymru” – honiad y mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei alw’n “nawddoglyd”.

Dyddiau cyffro geni HTV sy’n cael sylw David Meredith mewn cipolwg personol ar y dyddiau cyffrous hynny pan ddechreuodd y sianel newydd ddarlledu gyda “…syniadau rhaglenni beiddgar a ffilosoffi oedd yn gydnaws â mŵd creadigol iachus y chwedegau”.

Hanes goleuadau rhyfeddol dros awyr Meirionnydd sydd gan y colofnydd Mel Hopkins y mis yma – pan ddaeth pentref bach Cymreig a’r ‘broffwydes’ yn stori fawr ym mhapurau cenedlaethol y dydd.

Mae rhifyn Medi Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru. I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau