Actores a Chyfarwyddwr i Ymuno â’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol

Newyddion

Mae’r actores Sharon Morgan a’r Cyfarwyddwr Llion Iwan wedi’u hethol i Fwrdd sydd yn datblygu’r drafodaeth ar ddatganoli darlledu.

Gyda phenderfyniadau ar ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yn Llundain ar hyn o bryd, gwaith y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol ydy datblygu rheoliadau a strwythurau wrth baratoi i ddatganoli’r maes darlledu i Gymru.

Mae Sharon Morgan yn actores ac yn sgriptwraig sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA am ei phortread o Mary yn Tair Chwaer (1999); ei phortread o Martha yn Martha, Jac a Sianco (2008); a’i phortread o Maggie yn Resistance (2012). Mae hi hefyd wedi’i henwebu i fod ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru Equity, undeb llafur y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ymarferwyr creadigol. Roedd Sharon Morgan yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws.

Mae Llion Iwan yn Reolwr Gyfarwydd Cwmni Da. Mae e wedi bod yn newyddiadurwr print, yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC1, BBC 2, BBC 4 a BBC Cymru. Mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau yn y Ffrainc, Swisdir, Canada a gan y Royal Television Society. Mae e hefyd wedi bod yn Gomisiynydd Cynnwys S4C.

Mae’r ddau yn ymuno ag Angharad Mair, Barrie jones, Beti George, Betsan Powys, Bethan Jones Parry, Euros Lewis, Marc Webber, Nia Ceidiog ac Owain Gwilym sydd yn parhâu a’u dyletswyddau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Cyfathrebu: “Mae’r ychwanegiad hwn i’r Bwrdd yn werthfawr iawn gan y gallwn ni ymestyn ein gwaith hyd yn oed ymhellach nawr, gan fod y ddau yma yn dod ag arbenigedd, sgiliau a phrofiadau newydd gyda hwy. Disgwyliwn ymlaen at y gwaith sydd o’n blaenau ni eleni wrth gynllunio strwythur gyfathrebu Cymreig i’w roi yn ei le pan ddaw’r pwerau hynny i Gymru yn y blynyddoedd nesaf.”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau