Dyna ddigon o drafod yn barod – jyst gwnewch rywbeth!
Dyna neges ambell i un yn nhudalennau rifyn Awst Y Cymro wth i’r ymgyrch yn erbyn difrod sefyllfa’r tai haf yn ein cymunedau gynyddu’n wythnosol.
Ar ôl rali fawr ar argae Tryweryn – mae lluniau yn y rhifyn hwn – daw galwadau un-llais: mae’n rhaid i’n Llywodraeth gynnig mwy mewn strategaeth ymarferol glir i ddatrys hwn. Mae’r amser am ragor o ymchwilio a chynlluniau peilot wedi hen fod- mae angen gweithredu.
Ar ôl cyfnod o ddadlau ar y cyfryngau cymdeithasol mae dyfodol y mudiad annibyniaeth, YesCymru, hefyd dan sylwyn y rhifyn hwn. “Rhaid rhoi ein gwahaniaethau i’r neilltu os i ni am ennill ein hannibyniaeth” yw neges glir Sarah Rees, Cadeirydd dros-dro y mudiad, sy’n gofyn i’r aelodaeth fod yn amyneddgar a gweithio gyda’r Pwyllgor Canolog wrth symud ymlaen.
Meddai yn ei herthygl: “Mae gwreiddiau YesCymru yn y symudiad gwrth-wahaniaethu felly mae angen i ni ystyried sut all YesCymru fod yn ddiogel i bawb, a sut all pawb fod yn rhan ohono. Os nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel mae angen i ni wneud rhywbeth am hynny yn syth.”
Syllu yn y drych a methu gweld yr hyn yr ydyn ni eisiau ei weld ydi pwnc y colofnydd Iestyn Jones y mis hwn wrth iddo sylwi ar effeithiau’r holl fish a chips a’r hufen ia yn ystod y cyfnod clo! Ond mae gobaith wrth law i bob un ohonom yn yr un sefyllfa. Ymarfer corff amdani felly… ac mae’r gwelliannau i’w gweld yn barod!
Tynnu sylw at gleddyf daufiniog mae Dafydd Iwan yn ei golofn ar dwristiaeth yng Nghymru. Yn ei farn ef, mae perygl o ragrith wrth i ni ein hunain hawlio gwyliau lle bynnag y dymunwn, tra ein bod ni ar yr un pryd yn anhapus â’r llif o’r ymwelwyr sy’n gallu boddi ein cefn gwlad bob haf. Mae’n amhosib gwthio yn ei erbyn yn ei farn ef – yr hyn sydd yn bwysig yw i ni’r Cymry yw ei drin ar ein telerau ein hunain trwy ei ddefnyddio i ‘droi olwynion ein heconomi leol’
Y defnydd annisgwyl o’r iaith Gymraeg yn nramâu cyfnod Shakespeare yw pwnc y colofnydd Melfyn Hopkins y mis hwn, mewn erthygl ddiddorol am sut i’n hiaith gael mwy o effaith tu hwnt i’n ffiniau nag y tybiwch hwyrach. A phwysigrwydd dysgu gwersi o’r gorffennol sydd gan Trefor Jones, er ei fod yn nodi nad oes unrhyw beth yn newydd mewn gwirionedd
Bydd rhifyn Awst Y Cymro ar gael o siopau ar draws Cymru o ddiwedd yr wythnos. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Mae copi PDF digidol ar gael hefyd, cysylltwch â ni: gwyb@ycymro.cymru neu ewch i safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.