Ymgyrch i brynu hen gapel yn mynd o nerth i nerth 

Newyddion

Ceisio prynu’r lle i’r gymuned rhag iddo gael ei droi’n dŷ haf

Mae ymgyrch godi arian i geisio prynu hen gapel sydd o bwys hanesddol yn mynd o nerth i nerth. Roedd Capel Bethania, Pistyll, ger Nefyn i fod i gael ei werthu ar ocsiwn ar Fawrth 24, ond cafodd yr ocsiwn ei gohirio. Deellir bod y perchennog wedi rhoi rhagor o amser i’r ymgyrch leol i godi’r arian i brynu’r lle. Mae gan y capel gysylltiadau hanesyddol gyda’r heddychwr a’r efengylwr Tom Nefyn. 

Tom Nefyn

Dywedodd yr arwerthwy, Auction House, fod posibilrwydd y byddai’r capel yn cael ei gynnwys yn eu hocsiwn nesaf ar 19 Mai. 

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio i droi’r capel a’r tŷ capel sydd ynghlwm ag ef, yn dŷ gwyliau pedair llofft. Mae hynny wedi codi pryderon yn lleol y bydd yr eiddo yn wag am rannau helaeth o’r flwyddyn. 

Yr amcan bris ar gyfer yr ocsiwn oedd £120,000, ac mae ymgyrch ar GoFundMe hyd yma wedi codi dros £23,000 mewn ychydig ddyddiau.

Dywedodd trefnydd yr ymgyrch ariannol, Osian Jones, bod: “rhaid achub y capel pwysig hwn i berchnogaeth gymunedol, er budd y gymuned leol a’r genedl Gymreig, ac er mwyn diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol. 

Rydym yn grediniol bod modd cadw’r adeilad pwysig hwn yn nwylo’r genedl, ac y byddai gweld trosi hen gapel Tom Nefyn, un a weithiodd ar hyd ei oes yn erbyn gormes ac o blaid creu cartrefi diogel i weithwyr Cymru, yn sarhad ar ein gwlad,” meddai. 

Mae ardal Y Pistyll a gogledd orllewin Cymru’n ehangach yn wynebu dyfodol ansicr iawn, lle mae trigolion lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. 

Rydym yn nodi ein harddeliad i ail adeiladu, i ail blannu, ac i ail wladychu ein cymunedau, ein gwlad, ein hiaith, yn ysbryd Tom Nefyn, ac mewn ysbryd o gydweithio a chyd-fyw gyda’n brodyr a’n chwiorydd er mwyn adeiladu cymuned o gymunedau.  

Os byddwn fel cronfa yn llwyddo yn ein hamcanion, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol, er mwyn sefydlu perchnogaeth gymunedol, gydweithredol ar yr adeilad hanesyddol  hwn.” 

Os na fydd yr ymgyrch yn llwyddiannus, bydd rhoddwyr yn cael eu harian yn ôl.  

Pwy oedd Tom Nefyn?

Ganed Thomas Williams – Tom Nefyn – ym Moduan yn 1895, a chafodd ei fagu yn ardal Pistyll. Gadawodd yr ysgol elfennol yn 1909 ac aeth  i weithio yn chwarel Yr Eifl. Ymunodd â’r fyddin yn 1914, a gwasanaethodd    yn y Dardanelles, Ffrainc, yr Aifft a Chanaan.  

Cafodd ei glwyfo yn ystod y rhyfel, ac ar ôl dychwelyd adref, trodd yn heddychwr brwd. Dechreuodd efengylu yn yr ardal a chafodd ei annog i fynd yn weinidog. Treuliodd amser yng Nghwm Rhondda yn cymhwyso ar  gyfer y gwaith, cyn mynd i golegau diwynyddol y Presbyteriaid yn  Aberystwyth a’r Bala.  

Cafodd ei ordeinio, yn 1925, cyn cael galwad i wasanaethu yn Y Tymbl – ardal y glo carreg yn Sir Gaerfyrddin. Pregethai’n aml am faterion cymdeithasol, megis cyflogau a chyflwr tai’r glowyr, ond cododd ei syniadau wrychyn yr Eglwys Bresbyteraidd a bu’n ffrae rhyngddynt. 

Yn 1928 cafodd rybudd i gydymffurfio neu ymddiswyddo, ond gwrthododd ildio, a daeth ei weinidogaeth yn Y Tymbl i ben. 

Newidiodd ei feddwl maes o law, a chafodd ei adfer i’r  weinidogaeth, gan wasanaethu yn: Rhosesmor (1932-37); Gerlan, Bethesda (1937-46);  Pwllheli (1946-49); ac eglwysi Edern a’r Greigwen yn Llŷn (1949-58). Bu farw yn 1958, ac mae wedi’i gladdu yn Edern.

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau