Astudiaeth yn canfod perthynas agos rhwng hunaniaeth Seisnig a’r agweddau a arweiniodd at Brexit
Mae academyddion amlwg wedi dod i’r casgliad mai ‘Pryder ynghylch datganoli’ ymhlith etholwyr yn Lloegr sy’n ysgogi newid yng ngwleidyddiaeth Prydain.
Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r Athro Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin wedi treulio 10 mlynedd yn archwilio agweddau gwleidyddol yn Lloegr trwy Arolwg Dyfodol Lloegr, yr astudiaeth fanylaf erioed i ymagweddau tuag at hunaniaeth genedlaethol a newid cyfansoddiadol yn Lloegr.
Mae eu canfyddiadau, sydd wedi’u hamlinellu mewn llyfr newydd, Englishness: The Political Force Transforming Britain, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, yn dangos y berthynas agos rhwng hunaniaeth Seisnig a’r agweddau Ewrosceptig a sbardunodd Brexit. Maent hefyd yn dangos bod strwythurau llywodraethol presennol Lloegr yn methu â bodloni’r awydd cynyddol ymhlith y boblogaeth am fwy o gydnabyddiaeth fel cenedl ar wahân.
Dywedodd yr Athro Wyn Jones: “Mae llawer o drafod ar genedlaetholdeb Cymreig ac Albanaidd ond y gwir amdani yw mai cenedlaetholdeb Seisnig sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y Deyrnas Gyfunol.
“Y mae eisoes wedi chwarae rhan ganolog yn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac mae bellach gwestiynau sylfaenol ynglŷn â pharhad y wladwriaeth ei hunain o ystyried rhai o’r agweddau sy’n gysylltiedig â hunaniaeth Seisnig.
“Mae deuoliaeth cenedlaetholdeb Seisnig yn nodwedd mor drawiadol. Mae’n gysylltiedig â synnwyr cryf fod Lloegr yn cael cam oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol a fod angen cydnabod Lloegr fel cymuned wleidyddol yn ei hawl ei hun.
“Eto’i gyd, nid yw cenedlaetholdeb Seisnig yn ymwrthod â Phrydeindod, gan fod y rheini sy’n teimlo’n Saeson yn hynod deyrngar i’r syniad o Brydain fel gwlad sy’n chwarae rôl flaenllaw iawn yn y byd.”
Sefydlwyd Arolwg Dyfodol Lloegr yn 2011 i archwilio agweddau gwleidyddol a chyfansoddiadol yno, gydag arolygon ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr Alban a Chymru at ddibenion cymharu.
Mae arolygon wedi casglu barn yn ystod ac ar ôl digwyddiadau gwleidyddol allweddol, gan gynnwys y bleidlais Brexit hanesyddol.
Dywedodd yr Athro Ailsa Henderson: “Roeddem yn gweld bod pobl yng Nghymru a’r Alban datganoledig yn hapusach gyda’r ffordd mae datganoli yn gweithio i’r DU gyfan.
“Yn Lloegr, fodd bynnag, mae nifer yn pryderu ynghylch datganoli ac mae’n rhwystredigaeth sy’n cael ei hamlygu yn arbennig gyda’r Alban, o ran y sefydliadau a’r adnoddau sydd ganddi.
“Mewn cysylltiad â hyn, daeth i’r amlwg nad cyfanrwydd tiriogaethol Seisnig y wladwriaeth yw’r brif ystyriaeth yng nghyd-destun hunaniaeth, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n ymfalchïo’n fawr yn eu Seisnigrwydd.
“Mae’r farn hon yn deillio i raddau helaeth o rwystredigaeth ynghylch diffyg llais Lloegr yn y sefydliadau gwleidyddol presennol.”
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.