Angen datganoli seilwaith rheilffyrdd Cymru er mwyn taclo tanariannu

Newyddion

Colli £500m o fuddsoddiant mewn degawd am nad ydyw’n fater wedi’i ddatganoli

Byddai buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi bod yn sylweddol uwch pe bai wedi’i ddatganoli, a bydd methu â gwneud hyn yn arwain at golledion pellach yng nghyllideb Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. 

Canfyddiad yr adroddiad yw y gallai Cymru, dan system wedi’i datganoli’n llawn, fod wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514m yn ei seilwaith rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20. 

Yn ogystal â pharhau i danfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, mae’r ymchwilwyr yn rhybuddio y bydd y system heb ei datganoli hefyd yn arwain at wasgu cyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. 

Nid yn unig y mae dynodi HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr yn eithrio Cymru rhag derbyn yr arian ychwanegol fydd yn llifo i’r Alban a Gogledd Iwerddon dros oes y prosiect – ond gyda’r Trysorlys yn ddiweddar yn cynnwys gwariant Network Rail yng nghyfrifiadau fformiwla Barnett, bydd ail wasgfa ar gyllid Cymru.  

Gan nad yw Cymru’n cael ei thrin yr un fath â’r Alban yn y cyfrifiadau hynny, mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd Llywodraeth Cymru yn colli £505m arall dros y pum mlynedd nesaf.  

Gellir cymharu’r symiau hyn â chost sawl prosiect seilwaith rheilffyrdd mawr yng Nghymru sydd wedi’u hamcangyfrif gan ffynonellau allanol, gan gynnwys llinell Caerfyrddin i Aberystwyth (£620 – £775 miliwn), trydaneiddio prif reilffordd Arfordir Gogledd Cymru (£764 miliwn), a thrydaneiddio prif reilffordd De Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe (£433 miliwn). 

Dros weddill oes prosiect HS2 – sy’n debygol o fod dros sawl degawd – bydd Llywodraeth Cymru nawr yn derbyn cyfran is o lawer o unrhyw gynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth. 

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithrediadau’r rheilffyrdd yng Nghymru, trwy ei gweithredwr rheilffordd Transport for Wales, mae Llywodraeth y DU yn dal i fod yn gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd. Gall Llywodraeth Cymru wario ei hadnoddau ei hun i ariannu cynlluniau rheilffordd, ond gan nad yw’r seilwaith wedi’i ddatganoli i Gymru, does dim adnoddau ychwanegol iddi wneud hyn trwy Fformiwla Barnett. 

Gyda rhaglen y Cronfeydd Strwythurol yn dod i ben, cyfyngir ymhellach ar allu Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ategol ar gyfer seilwaith rheilffyrdd.  

Mae’r adroddiad wedi’i gyflwyno fel tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymru i seilwaith  heilffordd yng Nghymru.  

Yn ôl Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru: 

O ran rheilffyrdd Cymru, mae’r dystiolaeth yn glir y byddai’r cyllid wedi bod yn sylweddol uwch o dan system wedi’i datganoli’n llawn – hyd at £500m er 2011, pan oedd data gwariant ar gyfer Cymru ar gael am y tro cyntaf. Byddai’r cyllid hwnnw dros 8 mlynedd wedi galluogi prosiectau gwella sylweddol i ddigwydd. 

Bydd Cymru hefyd yn colli cyllid trafnidiaeth pan fydd y Trysorlys yn gosod y cyllidebau aml-flwyddyn nesaf, yn sgil newidiadau technegol yng nghyfrifiadau fformiwla Barnett. Mae hon yn ergyd ddwbl i Gymru, gyda’r tanariannu hanesyddol wedi ei wreiddio yn y system. 

Mae’n amlwg bellach mai dim ond drwy ddatganoli’r seilwaith rheilffyrdd yn llawn – fel yn yr Alban – y bydd modd mynd i’r afael â thanariannu rheilffyrdd Cymru.”

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau