Mae Cylch yr Iaith wedi ysgrifennu at ICOMOS (International Council on Monuments and Sites), y corff sy’n cynghori ar gadwraeth henebion a safleoedd, i awgrymu na ddylai UNESCO gydsynio â chais Llywodraeth Prydain i ddynodi Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru’n Safle Treftadaeth y Byd oni bai bod amodau llym er mwyn gwarchod y Gymraeg a bod rheolaeth gymunedol ar ddatblygiadau a ddeuai yn sgil y cynllun.
Yn ôl Cylch yr Iaith mae cymunedau ardaloedd y llechi yn dioddef o effeithiau niweidiol twristiaeth yn barod ac na ddylid cymeradwyo’r cais cyn derbyn sicrwydd y bydd amodau llym i’w diogelu rhag effaith cynnydd anochel yn y diwydiant ymwelwyr yr iaith a diwylliant.
Dywed Howard Huws, Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth Cylch yr Iaith: “Rydym o blaid diogelu gweddillion hanesyddol diwydiant llechi Gwynedd. Maent yn rhan annatod o gynhysgaeth cymunedau Cymraeg.
“Fodd bynnag, mae tystiolaeth wrthrychol, academaidd, yn awgrymu bod presenoldeb Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn gwaethygu gor-dwristiaeth, a bod Cymru, a rhanbarth Gwynedd yn neilltuol, yn dioddef gan effeithiau gor-dwristiaeth eisoes.”
Yn ôl Cylch yr Iaith mae ardaloedd lle mae’r gymuned Gymraeg yn peidio â bod ac yn colli eu Cymreictod yn brawf o effaith gor-dwristiaeth, ond nad yw Llywodraeth Cymru na Phrydain yn cydnabod gor-dwristiaeth na’i gysylltiad â dirywiad cymunedau.
Ychwanegodd Howard Huws: “Mae’r Llywodraethau’n cysylltu’r cais i UNESCO â ‘dathlu cymunedau, iaith a diwylliant’ a ‘chreu balchder yn yr iaith Gymraeg”.
Siarad gwag yw hynny: ni ellir ‘dathlu’ pethau a’u tanseilio ar yr un pryd.
Camarweiniol, hefyd yw eu bwriad i gomisiynu gwaith i osod gwaelodlin Iaith Gymraeg yn y cymunedau perthnasol i fonitro unrhyw effeithiau ar yr Iaith Gymraeg.”
“Mae’r effeithiau i’w gweld eisoes, ac os nad yw hynny’n ddigon o rybudd, nid oes dim diben i ‘fonitro effeithiau’ wedyn: bydd y difrod wedi’i wneud, ac ni ellir ei ddadwneud.
“Nid ydym wedi derbyn sicrwydd y bydd cynghorau cymuned a chyrff cyfrifol eraill yn y cymunedau yn rhanddeiliaid ystyrlon yn rheolaeth y datblygiad pe bai’n cael ei gymeradwyo. Dylai’r cymunedau eu hunain fod â llais uniongyrchol ym mhob agwedd ar y cynllun.”
Mae Cylch yr Iaith yn bwriadau parhau i ymgyrchu yn erbyn y cais ac argymell i UNESCO na ddylid ei ganiatáu nes i Lywodraeth Llundain, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd amlinellu camau i atal cynnydd gor-dwristiaeth yn sgil dynodi’r tirwedd llechwedd yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.