Bydd gŵyl rithiol ‘Yn Ôl i Frynllidiart’ yn cael ei chynnal ar 28 Mawrth i nodi 150 mlynedd ers geni Silyn (Robert Roberts) ym 1871, y bardd a’r Sosialydd a enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902. Yn yr un tŷ y ganed ei nai, Mathonwy Hughes, 120 mlynedd yn ôl. Daeth yntau’n brifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1956.
Gadawodd Silyn Ysgol Nebo yn 14 oed i fynd i’r chwarel, ac roedd ymysg y cyntaf i ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor. Bu’n weinidog yn Nhanygrisiau, lle bu’n weithgar efo’r Blaid Lafur Gynnar (yr ILP), a gyda’i wraig, Mary Silyn, fe sefydlodd y dosbarth addysg i oedolion cyntaf yng Ngogledd Cymru. Cyfraniad mawr y ddau oedd gosod sylfeini y WEA, (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr), yn y gogledd. Bu farw ym 1930.
I Ysgol Nebo aeth Mathonwy Hughes hefyd a bu yntau yn diwtor gyda’r WEA ac yn un o olygyddion Y Faner gyda Kate Roberts a Gwilym R. Jones. Bu farw ym 1999.
Dywedodd Angharad Tomos: “Dyffryn Nantlle ddaru greu pobl fel Silyn a Mathonwy. Y gymdeithas yma a ffurfiodd eu gwerthoedd ac a’u trwythodd mewn diwylliant. Ar aelwyd Brynllidiart y magwyd Silyn i garu barddoniaeth, i astudio’r Beibl ac i goleddu’r egwyddor o barchu cyd-ddyn a brwydro dros ei hawliau. I nodi 150 mlynedd ers geni Silyn, a 120 mlynedd ers geni Mathonwy ei nai yn yr un tŷ, mae’n werth cynnal diwrnod arbennig.
“Mewn cyfnod mor ansicr ac anwadal â hwn, mae cewri’r gorffennol, a lynodd yn driw i’w gweledigaeth am gymdeithas well, yn fodd i’n hysbrydoli ni i ddal ati.”
Yn ystod yr ŵyl bydd plac yn cael ei osod ar y tŷ, teithiau cerdded newydd yn cael eu lansio i bobl eu dilyn yn eu hamser eu hunain a dwy sgwrs fyw dros Zoom, un am Mathonwy gan Dr Ffion Eluned Owen ac un am Silyn gan Angharad Tomos. Bydd gweithgareddau i blant ar gael yn ystod mis Mawrth hefyd.
Dywedodd Ffion Eluned Owen: “Mae’r cyfnod diweddar wedi dangos pa mor bwysig ydi ein hardal leol ni, ac mae dysgu am y rhai oedd yma o’n blaenau ni yn rhan fawr o hynny. Roedd ’na werinwyr goleuedig iawn yn Nyffryn Nantlle ganrif a mwy yn ôl, yn chwarelwyr, amaethwyr, gwragedd, siopwyr, rhan fwyaf ohonyn nhw, fel Mathonwy Hughes, yn ddigoleg, ac wedi eu magu i garu dysg a diwylliant. Mae’n hanfodol bod ’na gyfleoedd i ni gofio, dathlu a dysgu am eu cyfraniadau i’r gymdeithas.”
Cysylltwch â gwion.yrorsaf@gmail.com er mwyn cofrestru i ymuno â’r sgyrsiau neu am ragor o wybodaeth.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.