Mae’n bosib y bydd enwau Cymraeg ar dai yn cael eu diogelu mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.
Cyflwynwyd deiseb i’r Senedd ym mis Tachwedd 2020 yn galw am ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg ar dai.
Roedd 18,000 wedi’i harwyddo, a chafodd ei thrafod gan y Senedd ar Ionawr 20.
Yn ôl y ddeiseb a drefnwyd gan Robin Aled Davies: “Mae ‘na batrwm ar hyd a lled Cymru lle mae perchnogion newydd yn newid enwau tai i’r Saesneg.
“Mae’r wlad yn colli ei hetifeddiaeth mewn camau bychain. Rhaid atal hyn i’r cenedlaethau sydd i ddod, beth bynnag eu iaith.”
Clywodd Aelodau’r Senedd fod nifer o awdurdodau lleol yn ceisio delio â’r mater drwy annog perchnogion i beidio newid enwau Cymraeg ar dai. Ond trefniant anffurfiol yw hwn, ac nid yw’n orfodol.
Dywedodd Dai Lloyd AS nad oedd hynny’n ddigon.
Roedd o wedi cyflwyno Mesur i’r Cynulliad (fel yr oedd bryd hynny), yn 2017, yn galw am ddiogelu enwau hanesyddol, yn cynnwys enwau tai.
Ni chafodd gefnogaeth ar y pryd, ond mae newid enwau tai yn dal yn bwnc llosg.
“Mae enwau tai, enwau ffermydd ac enwau llefydd yn gyffredinol yn bwysig iawn i gof cenedl,” meddai Dai Lloyd.
“Yn aml, mae ganddynt gysylltiad uniongyrchol efo hanes a daearyddiaeth y lle neu gysylltiad efo pobl enwog…
“Gwyddom fod enwau ffermydd a thai hanesyddol yn cael eu colli ar draws Cymru. Mae hynny’n golygu ein bod yn colli darnau o’n treftadaeth genedlaethol.
“Yn anffodus, fel yr wyf wedi’i ddadlau sawl gwaith, dydi anogaeth ddim yn gwarantu diogelu enw tŷ neu le hanesyddol. Mae deddfwriaeth yn gwneud hynny, a dyna pam y dylai’r llywodraeth ymchwilio ymhellach i hyn.
“Dydi canllawiau yn unig ddim yn ddigon,” meddai.
Cyfeiriodd at wledydd eraill sydd wedi datblygu deddfwriaeth i ddiogelu enwau, ac dweud bod lle i Gymru ddysgu ganddynt.
Dywdodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, bod ganddi gydymdeimlad â’i safbwynt.
“Mae’n rhaid imi gyfaddef bod gen i lot o gydymdeimlad yn hyn o beth, a byddwn i’n eithaf hapus i siarad gydag, efallai, aelodau’r pwyllgor a Dai, i weld beth yn union y gallwn ni ei wneud i dynhau pethau fel ein bod ni ddim yn gweld mwy o hyn yn digwydd,” meddai.
Roedd y ffaith bod y ddeiseb wedi denu cymaint o lofnodion yn dangos bod yna deimladau cryf iawn ynglŷn â hyn, meddai.
“Ac mae’n rhaid imi gyfaddef bod hwn yn fater dwi yn poeni amdano, ond mae yna broblemau ymarferol mae’n rhaid inni edrych arnyn nhw.
“Y ffaith yw bod hawl gan bobl i enwi eu tai, er da neu ddrwg. Ond dwi yn meddwl bod rhoi enw ar dŷ yn erbyn ewyllys pobl leol yn gallu teimlo fel torri llinyn rhyngom ni a’n cymuned ni.
“Yn lle ein bod chi’n gofyn yn neis, ydy e’n bosibl inni fynd ymhellach a deddfu a thynhau y canllawiau statudol yna?” meddai.
Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, cadeirydd y pwyllgor deisebau, nad oedd digon o amser i baratoi deddfwriaeth cyn toriad hanner tymor y Senedd ar 15 Chwefror.
Roedd gan nifer o gyrff ran i’w chwarae mewn diogelu enwau, meddai, yn cynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol a Cadw.
Ond roedd anawsterau ymarferol yn codi wrth drafod diogelu enwau tai yn unig, meddai:
“Nid yw’n fater syml o bell ffordd, ac fel mae’r ddeiseb yn ei ddangos, mae’n fater sy’n ennyn ymateb a theimladau cryfion. Mae hyn i’w ddisgwyl o gofio pwysigrwydd enwau wrth gadarnhau pwy ydym ni a hanes y cymunedau ble’r ydym yn byw.”
Dywedodd y byddai’r pwyllgor deisebau yn ystyried y ddeiseb eto yn y dyfodol, ac y byddent yn croesawu rhagor o sylwadau gan y deisebwr ac unrhyw un arall.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer garejis. Neu gallwch danysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.