Wrth gwrs, cafodd y rhan fwyaf o’r Brythoniaid eu gwthio i beth sydd heddiw yn ymylon Celtaidd ond rŵan mae tystiolaeth bwysig fod pocedi o Gymry wedi parhau i fyw yn yr ardaloedd o ‘Loegr’ a goncrwyd.
Ceir tystiolaeth o gyfnod y Brenin Ine o Wessex a chyfres o gyfreithiau tua 694, oedd ag oblygiadau pwysig i’r Cymry yn ei frenhiniaeth. Dyma’r cyfreithiau cyntaf a gyhoeddwyd gan frenin Sacsonaidd tu hwnt i Swydd Caint yn y cyfnod cythryblus yma ac maen nhw’n dangos yn glir fod Cymry wedi parhau i fyw yn Wessex.
Mae’n debyg bod y Sacsoniaid a’r Cymry yn byw ochr yn ochr ac mae’r cyfreithiau’n cydnabod hawl y Cymro i ddal eiddo, yn datgan y gwerth oedd i’w lw ac yn pennu gwerth cyfreithiol ei fywyd. Nid oedd gan y Cymry statws cyfartal, er hynny roedd ganddynt statws a chydnabyddiaeth warchodedig yn y wladwriaeth Sacsonaidd.
Mae’r erthygl hefyd yn sôn am arwyddion o fodolaeth Y Cymry yn byw yn Dorset, mae cerrig coffa yn eglwys y Santes Fair yn Warehamyn yn dyddio o ddiwedd y 7fed ganrif yn cofnodi enwau Cymraeg: Gongor, Deniel a Catgug. Mae tystiolaeth hefyd yn enwau lleoedd ardal Wessex hyd heddi: Andover (Onn Ddwfr), Pentridge (Pen Twrch), Penselwood a Wilton; ac yn enwau afonydd megis y Wylye, Kennet a Frome (o Fframa neu Ffraw, sy’n disgrifio llif yr afon).
Mae hyn yn awgrymu na wnaeth y Cymry integreiddio’n llwyr, yn enwedig yn rhanbarthau gorllewinol y deyrnas, a bod presenoldeb tenau gan y goresgynwyr Germanaidd yn yr ardaloedd yma.
Prin iawn yw’r dystiolaeth o bresenoldeb y Cymry mewn rhannau eraill o dir Sacsonaidd y cyfnod. Ond mae hagiograffeg Sant Guthlac, Sant o’r 8fed ganrif o ardal Crowland yn Swydd Gaerloyw, yn adrodd iddo glywed yr iaith Frythoneg tu allan i’w gell un bore.
Gwelodd Frythoniaid yn chwifio arfau ato, ac wrth adrodd Salm chwe deg saith diflannodd y Cymry fel mwg. Efallai mai stori chwedlonol yw hon sy’n adlewyrchu agweddau’r cyfnod wrth gymharu’r Brythoniaid â chythreuliaid.
Prif lun o wefan Clan Macnachtan
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Gallwch hefyd danysgrifio i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.